C.P.D. Amaturiaid y Blaenau

Clwb pêl-droed ym Mlaenau Ffestiniog yw Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau, sydd chwarae yng Nghynghrair Undebol Arfordir y Gogledd yn dilyn dyrchafiad o Gyngrair Gwynedd ar ddiwedd tymor 2008/09. Mae'r clwb yn chwarae ar Cae Clyd ym Manod, Blaenau Ffestiniog. Cafodd y clwb ei sefydlu yn 1980 fel clwb amatur.

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb gwreiddiol ym Mlaenau Ffestiniog yn 1885 dan yr enw Blaenau Ffestiniog FC.[1] Aeth y clwb allan o fodolaeth a chael ei ailffurfio sawl gwaith dros y blynyddoedd. Symudodd y clwb i faes presennol yr Amaturiaid - Cae Clyd, sy'n hen domen sbwriel, am y tro cyntaf yn 1956. Un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus y Blaenau oedd yr 1970au, yn enwedig tymor 1971/72 pan enillwyd y Gamp Lawn, sef pob un o dlysau Gogledd Cymru - Cwpan Her Arfordir y Gogledd, Cynghrair Cymru (y Gogledd) a chwpanau Alves a Cookson. Enillodd y clwb y Bencampwriaeth am dri tymor yn olynol rhwng 1971/72 ac 1973/74. Ar ddiwedd y 70au, dechreuodd y Blaenau arwyddo mwy a mwy o chwaraewyr o'r tu allan i'r cylch. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at ffurfio Amaturiaid y Blaenau yn 1980 i roi cyfle i chwaraewyr lleol. Ar ddiwedd tymor 1986/87 aeth clwb Blaenau Ffestiniog FC allan o fodolaeth yn sgîl diffyg arian, a diffyg diddordeb yn lleol mewn rheoli'r clwb. Ers hynny felly, Amaturiaid y Blaenau yw'r unig glwb sy'n cynrychioli'r dref. Ers ei sefydlu, mae'r clwb wedi treulio'r rhan fwyaf o'i amser yng Nghyngrair Gwynedd, Cynghrair Dyffryn Conwy a Chynghrair Caernarfon a'r Cylch. Ond yn 2008/09 yn dilyn tymor ardderchog, sicrhaodd yr Amatuiaid clwb ddyrchafiad i Gynghrair Undebol Arfordir y Gogledd, sef 3ydd haen pyramid Pêl-droed Cymru a'r enw newydd am y Gynghrair Cymru (y Gogledd) lle disgleiriodd yr hen Blaenau Ffestiniog FC yn y 70au.

Tymor 2009/10 golygu

Rheolwr Amaturiaid y Blaenau ar gyfer tymor 2009/2010 yw Ian 'Mel' Roberts. Ymddiswyddodd Brian Vaughan fel rheolwr ddyddiau cyn dechrau'r tymor[2] er iddo sicrhau dyrchafiad i'r clwb o Gynghrair Gwynedd yn nhymor 2008/09.

Mae gan y clwb ail-dîm sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch ac yn cael eu rheoli gan Keith Cunnington.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato