Capel Coffa John Hughes

capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Y Trallwng

Mae Capel Coffa John Hughes wedi'i leoli ym Mhontrobert, Sir Drefaldwyn. Adeiladwyd y capel hwn yn 1800, a bu ar agor ac yn weithredol o hynny hyd 1865. Bu’r Parchedig John Hughes (1775-1854) yn athro yno tan ei ordeinio, ac yna’n gwasanaethu yno tan iddo farw. Codwyd y capel fel man cwrdd i’r Methodistiaid Calfinaidd wedi cyfnod o adfywiad crefyddol yn yr ardal leol yn y 1790au. Roedd John Hughes a’i wraig, Ruth, yn byw yn y bwthyn y drws nesaf i’r capel am ddeugain mlynedd. Ganwyd iddynt chwech o ferched. Buasai Ruth yn forwyn i’r emynydd Ann Griffiths a arferai addoli yn y capel hwn.

Capel Coffa John Hughes
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Trallwng, Llangynyw Edit this on Wikidata
SirLlangynyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr128.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7073°N 3.31969°W Edit this on Wikidata
Cod postSY22 6JT Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Ni pharhaodd y gwasanaethau am gyfnod hir wedi marwolaeth John Hughes, ac fe adawyd i’r capel ddadfeilio. Prynwyd yr adeilad yn 1927 a bu’n weithdy saer olwynion am gyfnod – mae olion y gweithdy hwn i’w gweld ar hyd y capel heddiw. Cadwyd rhai pethau o’r capel gwreiddiol, megis pulpud John Hughes: nodwyd mewn cyfamod fod yn rhaid i’r pulpud aros yn ei fan gwreiddiol. Wedi gwaith adnewyddu mwy diweddar saif yno o hyd, ac mewn cyflwr llawer gwell nag y bu. Os edrychwch i fyny ac i’r chwith wedi ichi ddod i mewn i’r capel, fe welwch dwll yn y wal wedi’i orchuddio â drysau pren. Y tu ôl i‘r drysau, roedd ystafell wely John Hughes, ac yn wir pan fyddai’n rhy sâl i adael ei wely, byddai’n parhau i bregethu o’i wely trwy’r agoriad hwnnw.[1]

Y Capel Heddiw golygu

Yr awdur Nia Rhosier sy’n byw yn nhŷ’r capel er 1993, a hi sydd wedi sicrhau fod y capel yn parhau i fod mewn cyflwr da a’i fod ar gael fel man addoli. Codwyd arian rhwng 1983 a 1995 i brynu’r adeilad, ac agorwyd y capel fel canolfan ar gyfer adnewyddu ysbrydol a hybu undod Cristnogol. Mae John a Ruth Hughes wedi’u claddu yn y fynwent gyferbyn â’r capel, lle mae modd gweld eu beddau a chofeb iddynt. 

Llyfryddiaeth golygu

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.152–3

Cyfeiriadau golygu

  1. Nia Rhossier, ‘Hen Gapel John Hughes, Pontrobert’, Capel, rhif 38 (2001), tt. 13-15; ‘Pontrobert Chapel’, www.coflein.gov.uk (cyrchwyd Mai 2015).