Capel Sant Trillo, Llandrillo yn Rhos

eglwys lleiaf gwledydd Prydain

Eglwys fechan yw Capel Sant Trillo, Llandrillo yn Rhos, Conwy. Fe'i lleolir ar lan y môr, tua dau gan metr i'r gorllewin o bentref Llandrillo yn Rhos mewn llecyn cysgodol, ond eto'n wynebu gwynt y môr. Mae'n bosib fod yr eglwys wreiddiol yma a fyddai wedi'i chodi o bren, mae'n debyg, yn dyddio i'r 6g. Dywedir mai dyma eglwys leiaf gwledydd Prydain. Cofrestrwyd yr adeilad gan cadw ar 21 Mehefin 1950 (rhif cofrestriad: 146; LL28 4HS; SH84138113). Mae'r capel yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau unwaith y mis.[1]

Capel Sant Trillo, Llandrillo yn Rhos
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
SirLlandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.314422°N 3.740631°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iTrillo Edit this on Wikidata
Manylion
Yr eglwys ar y prom, tua dau gan metr o bentref Llandrillo yn Rhos
Y capel o gyfeiriad y pentref (tua'r gorllewin)

Er fod anghytundeb am ei ddyddiad a'i bwrpas, ceir ffynnon yma a thraddodiad hir o gysylltu'r adeilad gyda Sant Trillo.[2] Aeth a'i ben iddo ychydig wedi 1855 ac fe ailadeiladwyd y to gan Arthur Baker, ychydig yn is na chynt, gyda'r bwa'n finiog yn hytrach nag ar ffurf bwa crom. Fe'i adnewyddwyd eilwaith, yn 1935, dan oruchwyliaeth Harold Hughes o Fangor.

Un gell yw'r capel, a cheir dwy ffenestr fechan yn waliau'r gogledd a'r dwyrain: y naill yn darlunio Sant Eilian a'r llall yn darlunio Sant Trillo. Credir mai brodyr i Trillo oedd Tegai a Llechid. Coblau yw gwneuthuriad y llawr ac mae'r adeilad (un gell) yn mesur 15tr wrth 9 troedfedd.[1]

Pennant golygu

Ymwleodd yr awdur Thomas Pennant a'r eglwys ar ddiwedd y 18g gan ei disgrifio fel: “… gwelais ei fod yn agos at fin y dŵr, yn siap petrual gyda dwy ffenest ar ddwy ochr yr adeilad ac yn y pen. Ceir drws bychan a tho bwaog o gerrig crynion, nid llechi. Oddi fewn, ceir ffynnon sydd wedi'i sancteddio i Sant Trillo a Sant Elian. Fe leolir yr eglwys oddi fewn i wal garreg isel.”[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd 8 Ebrill 2016
  2. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 8 Ebrill 2016
  3. "St Trillo’s Well, Llandrillo yn Rhos"; Gwefan Well Hopper

Llyfryddiaeth golygu

  • Edward Hubbard, Clwyd, cyfres Buildings of Wales (1986), t.194
  • Norman Tucker, Colwyn Bay, its Origin and Growth (Bae Colwyn, 1953), tt.31-4