Ceridwen Lloyd-Morgan

curadur llyfrgelloedd

Mae Dr Ceridwen Lloyd-Morgan yn curadur llyfrgelloedd. Magwyd hi yn Nhregarth ger Bangor.[1]

Ceridwen Lloyd-Morgan
Ganwyd1950s Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcuradur llyfrgell, archifydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Astudiodd ieithoedd modern yng Ngholeg y Santes Ann, Rhydychen, Prifysgol Poitiers a Phrifysgol Cymru. Bu'n gweithio ym mhrifysgol Caerwysg am ddwy flynedd yn dysgu yn yr adran Ffrangeg ac Eidaleg.

Bu’n gweithio fel curadur llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1981 ymlaen, ac yna fel Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell nes ymddeol yn 2006. Yn 2023, derbyniodd Ceridwen Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio haf Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.[2]

Roedd Ceridwen yn un o sylfaenwyr y cyhoeddwr merched Cymreig Honno yn 1986. Mae hi hefyd yn cyfrannu at y cylchgrawn O'r Pedwar Gwynt.

Yn 2024, roedd hi'n byw yn Llanafan, Ceredigion.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ceridwen Lloyd-Morgan: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.
  2. "Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn Nosbarth Graddio 2023". Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 2023-07-07. Cyrchwyd 10 Mawrth 2024.