Charles Ashton

llyfryddwr a hanesydd llenyddiaeth Cymru (1848-1899)

Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig hunanddysgedig oedd Charles Ashton (4 Medi 184813 Hydref 1899). Roedd yn frodor o Sir Drefaldwyn (gogledd Powys heddiw), a aned yn Llawr-y-glyn.

Charles Ashton
Ganwyd4 Medi 1848 Edit this on Wikidata
Llawr-y-glyn Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1899 Edit this on Wikidata
Dinas Mawddwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethllyfryddiaethwr, llenor, hanesydd, heddwas Edit this on Wikidata
Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Gweler hefyd Charles Ashton (actor).

Cefndir golygu

Roedd Ashton yn blentyn gordderch, yn fab i Elizabeth Ashton, cafodd ei fagu ar aelwyd ei daid, Charles Asheton, saer maen, Ty'nysarn, Llawr y Glyn[1]

Gyrfa golygu

Ym more ei oes gweithiodd fel mwynwr yng ngwaith plwm Dylife ac yna ar y rheilffordd, cyn mynd yn heddwas.

Ym 1869 ymunodd â Heddlu Meirionnydd gan wasanaethu am gyfnod o chwarter canrif. Gwasanaethodd ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Dolgellau, fe'i codwyd i reng sarsiant yn Nolgellau a bu sôn am ei godi i swydd arolygydd, ond ychydig ddyddiau cyn ei gyfweliad am swydd yr arolygydd cafwyd ef yn feddw ar ddyletswydd, ac yn hytrach na'i ddyrchafu cafodd ei israddio i swydd cwnstabl, gan wasanaethu fel cwnstabl Dinas Mawddwy hyd ei ymddeol[2]. Yno daeth yn gyfaill i'r ysgolhaig Daniel Silvan Evans, ficer y plwyf ar y pryd.

Mae llyfr O. M. Edwards, Tro Trwy'r Gogledd, yn cynnwys adroddiad o enau Ashton ei hun am yr amgylchiadau a arweiniodd at ei israddio i swydd cwnstabl Dinas Mawddwy:—

Bum yn eistedd bron yn yr un fan ar brydnawn. Yr oedd plismon yn eistedd wrth fy ochr. Ei waith ef oedd cadw'r heddwch ym Mawddwy, ac yr oedd wedi dod i derfyn ei randir i gyfarfod ei gyd-swyddog o Benllyn. Yr oedd wedi ymdaflu i adrodd ei hanes ei hun. Cwynai ar ei ffawd. Beiai ei fam na roddasai addysg iddo. Dywedai mai nid plismon a ddylasai fod, ond gŵr cyfoethog yn ymroddi i lenyddiaeth. Ymunodd â'r heddlu er mwyn cael dyrchafiad. Tybiai, ond codi yn uchel yn ei reng, y cai fynd i ymyl llyfrau ac y cai fwy o seibiant. Ond drylliwyd ei gynlluniau pan oedd yn rhoi'r cam cyntaf i fyny. Yr oedd yn yr Abermaw yn disgwyl am y prif—gwnstabl. Tybiodd y byddai'n well iddo gryfhau, os nid llonni, ychydig arno'i hun trwy yfed ychydig gwrw. Rhoddodd rhyw elyn whisci yn ei gwrw, neu ryw wirod niweidiol arall. Cododd y gymysgfa afiach i'w ben, a chollodd bob rheol ar ei feddyliau ac ar ei dafod. Yn lle derbyn ei ddyrchafiad gan ei uch-swyddog, rhoddodd iddo wers lem am ei ddiffygion ei hun. Wrth draethu, nid anghofiodd ddim achlod a glywsai am y prif-gwnstabl. Ni ddaeth dyrchafiad. Yn lle cael ei hun ar y ffordd i ryw ddinas fawr, lle cai dreulio ei oriau hamdden mewn llyfrgell. alltudiwyd ef i Ddinas Mawddwy. Nid oedd ganddo lygad at fawredd natur, na theimlad i'r tyner mewn llenyddiaeth. Ffaith yn unig apeliai ato,—dyddiad llyfr, lliw ei gas, ehangder poblogrwydd emyn, nifer argraffiadau traethawd. O dawelwch Bwlch y Groes, hiraethai am dref boblog; ymysg y grug, hiraethai am lwch llyfrgell. Na, nid mewn dinas fawr yr oedd i dreulio ei fywyd. Cofiaf byth am y siom oedd ar ei wyneb hirgul wrth gyfeirio pedwar bys hir a bawd o ddiystyrwch at y fro hyfryd odditanom, "Ond dyma'r Ddinas ges i." Efe oedd Charles Ashton.[3]

Cyfraniad llenyddol golygu

Ysgrifennodd Charles Ashton erthyglau i sawl cylchgrawn Cymraeg fel Yr Haul. Ymroddodd i astudio hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gymryd diddordeb arbennig yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr a llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd olygiad o waith Iolo Goch (sy'n wallus yn ôl safonau ysgolheictod heddiw ond yn waith arloesol ar y pryd). Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol ar fywyd William Morgan. Ond ei gampwaith fawr, llafur ei oes, yw'r gyfrol swmpus Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650–1850, sy'n llawn manylion am lên a llenorion y cyfnod hwnnw; enillodd y gyfrol wobr iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 1891 ac fe'i cyhoeddwyd gan lys yr Eisteddfod.

Priodas golygu

Ym 1871 priododd Ashton a Jennet Williams, ni fu iddynt blant. Roedd y briodas yn un anhapus, nid oedd Mrs Ashton yn gefnogol i'r amser a'r arian roedd ei gŵr yn gwario ar ei ymchwil llenyddol ac roedd ef yn ei churo hi, ac wedi mynegi mewn llythyrau ei dymuniad i'w wraig marw er mwyn iddo gael priodi ei feistres.[4]

Marwolaeth golygu

 
Ellyn

Ar 13 Hydref 1899 ymosododd Ashton ar ei wraig gydag ellyn (rasel hen ffasiwn, debyg i gyllell miniog), llwyddodd Mrs Ashton i ffoi at heddgeidwad cyfagos am gynhorthwy. Wedi gweinyddu ar glwyfau Mrs Ashton aeth yr heddgeidwad i chwilio am Charles a'i ganfod yng nghegin ei dŷ wedi marw drwy hunanladdiad trwy ddefnyddio'r ellyn i dorri ei wddf [5]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Mallwyd[6]

Yn ei ewyllys gadawodd y rhan fwyaf o'i ystâd i'w feistres Martha Hughes, athrawes yn ysgol Dinas Mawddwy, a mam plentyn iddo. Aflwyddiannus bu achos llys gan weddw Ashton i wyrdroi'r ewyllys[7].

Llyfryddiaeth golygu

  • Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan (1891)
  • A Guide to Dinas Mawddwy (1893)
  • Gweithiau Iolo Goch (Croesoswallt, 1896)
  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig 1650–1850 (Lerpwl, d.d. = 1893)
  • Llyfryddiaeth y 19eg Ganrif (cyhoeddwyd yn 1908, ar ôl ei farwolaeth)[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "CharlesAshton - Ye Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1900-03-16. Cyrchwyd 2016-09-05.
  2. "ittCHARLES ASHTONS WILL - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1900-08-03. Cyrchwyd 2016-09-05.
  3. Edwards, Owen Morgan; Tro Trwy'r Gogledd, Conwy 1907; pennod VI—Llan ym Mawddwy ar Wicidestun
  4. "ittCHARLESASHTONSWILL - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1900-08-03. Cyrchwyd 2016-09-04.
  5. "CharlesAshton - Ye Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1900-03-16. Cyrchwyd 2016-09-04.
  6. "ClADDEDIGAETH MR CHARLES ASHTON - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1899-10-27. Cyrchwyd 2016-09-04.
  7. "EWYLLYS CHARLES ASHTON - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1900-08-03. Cyrchwyd 2016-09-04.
  8. "Marwolaeth Charles Ashton - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1899-10-19. Cyrchwyd 2016-12-13.