Tref ddiwydiannol fach yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Clayton-le-Moors.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Hyndburn. Saif 2 filltir i'r gogledd o dref Accrington ar lannau Gamlas Leeds a Lerpwl.

Clayton-le-Moors
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Hyndburn
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerhirfryn
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.7792°N 2.3884°W Edit this on Wikidata
Cod OSSD745315 Edit this on Wikidata
Cod postBB5 Edit this on Wikidata
Map

Datblygodd ar ddechrau'r 19g o gyfuno dwy bentrefi – Oakenshaw i'r gogledd-orllewin o'r gamlas ac Enfield i'r de-ddwyrain.

Ar 7 Tachwedd 1883 fe roedd trychineb yn y Moorfield Colliery ar gyffiniau Clayton-le-Moors, pan laddwyd 68 o ddynion a hogiau, y ieuenga yn ddeg mlwydd oed. Heddiw mae yna Wal Goffa ar y lon A678 gerllaw i'r lle roedd y glofa yn sefyll.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 20 Medi 2019


Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerhirfryn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato