Constantius II

ymerawdwr Rhufeinig (317-361)

Flavius Julius Constantius, mwy adnabyddus fel Constantius II (7 Awst 3173 Tachwedd 361), oedd ymerawdwr Rhufain o 337 hyd ei farwolaeth.

Constantius II
Ganwyd7 Awst 317, 13 Awst 317 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 361 Edit this on Wikidata
Cilicia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol, yr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
TadCystennin I Edit this on Wikidata
MamFausta Edit this on Wikidata
PriodFaustina, daughter of Julius Constantius, Eusebia Edit this on Wikidata
PlantConstantia Edit this on Wikidata
Llinachllinach Cystennin Edit this on Wikidata

Roedd Constantius yn drydydd mab Cystennin I a’i wraig Fausta. Ganed ef yn Illyricum (Hwngari heddiw) a cyhoeddwyd ef yn “Gesar” (is-ymerawdwr). Pan fu farw ei dad yn 337, llwyddodd i gael gwared o holl ddisgynyddion Constantius Chlorus o’i ail wraig Theodora, gan ei adael ef ei hun a’i frodyr Cystennin II a Constans, disgynyddion .gwraig gyntaf Constantius Chlorus, Helena. Rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddynt, gyda Constantius yn cael Caergystennin a dwyrain yr ymerodraeth. Cymerodd Constantius ran yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, gan gefnogi Ariaeth.

Yn 340 lladdwyd Cystennin II wrth ymosod ar Constans yn yr Eidal, gan adael Constans yn feistr rhan orllewinol yr ymerodraeth. Yn 350 lladdwyd Constans mewn brwydr yn erbyn Magnentius oedd yn ceisio hawlio’r ymerodraeth. Enwodd Constantius ei gefnder Gallus fel “Cesar”, ac yn 351 llwyddasant i orchfygu Magnentius ym mrwydr Mursa Major, un o frwydrau mwyaf gwaedlyd Rhufain. Lladdodd Magnentius ei hun yn 353, a chan nad oedd angen Gallus bellach, trefnodd Constantius i’w ladd yn fuan wedyn.

Penododd Constantius yn unig aelod gwrywaidd o’r teulu oedd yn dal yn fyw, Julian, fel Cesar, a rhoddodd ei chwaer Helena yn wraig iddo. Fodd bynnag, gwrthryfelodd Julian a chyhoeddwyd ef yn Augustus gan ei filwyr. Roedd byddinoedd y ddau yn bur gyfartal, ond ar 3 Tachwedd 361 bu Constantius farw o dwymyn gerllaw Tarsus, gan adael Julian yn ymerawdwr.

Rhagflaenydd:
Cystennin I
Ymerawdwr Rhufain
337361
gyda Cystennin II a Constans
Olynydd:
Julian