Yn ôl traddodiad, un o'r Cynfeirdd cynnar oedd Culfardd (bl. 6g efallai). Nid oes unrhyw gerdd ganddo ar gael heddiw.

Culfardd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCynddelw Brydydd Mawr Edit this on Wikidata

Tystiolaeth golygu

Ni wyddys dim amdano ar wahân i'r dystiolaeth amwys a geir yn rhai o gerddi'r Gogynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr. Cyfeiria Seisyll Bryffwch ato mewn ymryson barddol rhyngddo â Cynddelw Brydydd Mawr:

Mi biau fod yn bencerdd
O iawnllin iawnllwyth Culfardd.[1]

Ceir cyfeiriad gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen hefyd, sy'n ei ddisgrifio fel "Culfardd, bu broffwyd celfydd," ac mae Iolo Goch yn cyfeirio ato fel "prydyddfardd" a "proffwyd cerdd".[2]

Gwelir cyfeiriadau at yr enw mewn sawl cerdd yn y llawysgrifau, er enghraifft y gerdd sy'n dechrau "Mi ath o6ynnaf g6l6ardd eil6ardd gore6" (mae'r symbol '6', yn perthyn yn agos i 'v' yn orgraff y cyfnod) neu honno a gychwyn gyda'r geiriau "Mi ath ogo6archaf g6l6ardd bwyt Alaf". Mae'r ddwy gerdd hyn ar glawr yn llawysgrif Peniarth 26 (tt. 34c, 38b), sy'n dyddio o dua chanol y 14g.

Yn ei fersiwn ef o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Elis Gruffydd yn dweud "bod Culfardd neu Heinin y Bardd yn [byw] yn yr [un] amser â Thaliesin..." ac mae'n bosibl felly mai un o feirdd llys Maelgwn Gwynedd oedd Culfardd, yn y traddodiad Cymreig.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol II, (Aberystwyth, 1995), 12.21-22.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), XXII.
  3. Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992), tud. 119.