Cyfraith hawlfraint y Deyrnas Unedig

Y gyfraith sy'n rheoli hawliau dros weithiau creadigol yn y Deyrnas Unedig yw cyfraith hawlfraint y Deyrnas Unedig. Mae'n ffurfio rhan o gyfraith eiddo deallusol y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn ymwneud â chyfraith batent, cyfraith nod masnach, a chyfraith dyluniadau.

Datblygodd yn gyntaf o gysyniad yn y gyfraith gyffredin, a Statud Anne 1709 oedd deddf hawlfraint gyntaf y wlad. Ymysg y deddfau dilynol oedd Deddf Hawlfraint 1842 a Deddf Hawlfraint 1911. Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yw sail y gyfraith hawlfraint gyfredol. Mae'n berthnasol i weithiau llenyddol, gweithiau dramatig (megis dramâu a dawnsiau), cerddoriaeth, gweithiau celfydd, trefniadau argraffyddol, recordiadau sain, a ffilmiau. Dan Reoliadau Hawlfraint (Rhaglenni Cyfrifiadurol) 1992, mae gweithiau llenyddol yn cynnwys rhaglenni cyfrifiadurol. Mae hyd y hawlfraint yn amrywio.

Ym 1984 sefydlwyd y Ffederasiwn yn erbyn Lladrad Meddalwedd (FAST) gan y diwydiant meddalwedd i geisio atal lleidr-argraffiadau. Mae gan y sefydliad di-elw hwn bolisi o erlyn unrhyw un sydd yn torri cyfraith hawlfraint meddalwedd.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu