Cystadleuaeth Cân Eurovision 2014

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2014 oedd y 59fed Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Copenhagen, Denmarc, ar ôl i Emmelie de Forest ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013 gyda'i chân "Only Teardrops". Conchita Wurst o Awstria a enillodd y gystadleuaeth gyda'r gân "Rise Like a Phoenix".

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2014
"#JoinUs"
"#YmunwchANi"
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 16 Mai 2014
Rownd cyn-derfynol 28 Mai 2014
Rownd terfynol10 Mai 2014
Cynhyrchiad
LleoliadB&W Hallerne, Copenhagen, Denmarc
CyflwynyddionLise Rønne, Nikolaj Koppel, Pilou Asbæk
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Bwlgaria Bwlgaria
Baner Croatia Croatia
Baner Cyprus Cyprus
Baner Serbia Serbia
Canlyniadau
◀2013   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2015▶

Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 6 a 8 Mai 2014 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 10 Mai 2014. Cymerodd 37 o wledydd ran yn y gystadleuaeth, gan gynnwys Gwlad Pwyl a Phortiwgal. Penderfynodd Bwlgaria, Croatia, Cyprus a Serbia beidio â chymryd rhan, a chyrhaeddodd San Marino a Montenegro y ffeinal am y tro cyntaf.

Y Rownd Derfynol golygu

Draw Gwlad Iaith Canwr Cân Cyfieithiad Cymraeg Place Points
01   Wcráin Saesneg Mariya Yaremchuk "Tick-Tock" - 6 113
02   Belarws Saesneg Teo "Cheesecake" "Cacen gaws" 16 43
03   Aserbaijan Saesneg Dilara Kazimova "Start a fire" "Dechrau Tân" 22 33
04   Gwlad yr Iâ Saesneg Pollapönk "No Prejudice" "Dim Rhagfarn" 15 58
05   Norwy Saesneg Carl Espen "Silent Storm" "Storm Tawedog" 8 88
06   Rwmania Saesneg Paula Seling & Ovi "Miracle" "Gwyrth" 12 72
07   Armenia Saesneg Aram MP3 "Not alone" "Ddim ar dy ben dy hun" 4 174
08   Montenegro Montenegreg Paula Seling & Ovi "Moj svijet" "Fy myd" 19 37
09   Gwlad Pwyl Saesneg Donatan & Cleo "My Slowianie" "Ni'n Slavs" 14 62
10   Groeg Groeg Freaky Fortune feat. RiskyKidd "Rise Up" "Codi lan" 20 35
11   Awstria Saesneg Conchita Wurst "Rise Like a Phoenix" "Codl fel Ffenics" 1 290
12   Yr Almaen Saesneg Elaiza "Is it Right" "Ydy e'n gywir?" 18 39
13   Sweden Saesneg Sanna Nielsen "Undo" "Dad-wneud" 3 218
14   Ffrainc Ffrangeg TWIN TWIN "Moustache" "Mwstas" 26 2
15   Rwsia Saesneg Chwiorydd Tolmachevy "Shine" "Sgleinio" 7 89
16   Yr Eidal Eidaleg Emma "La mia città"" "Fy Ninas" 21 33
17   Slofenia Saesneg Tinkara Kovač "Round and Round" "Rownd a Rownd" 25 9
18   Y Ffindir Saesneg Softengine "Something Better" "Rhywbeth Gwell" 11 72
19   Sbaen Saesneg a Sbaeneg Ruth Lorenzo "Dancing in the Rain" "Dawnsio yn y Glaw" 11 72
20   Y Swistir Saesneg Sebalter "Hunter of Stars" "Heliwr o Serennau" 13 64
21   Hwngari Hwngareg Andras Kallay Saunders "Running" "Rhedeg" 5 143
22   Malta Saesneg Firelight "Coming Home" "Dod adre" 23 32
23   Denmarc Saesneg Basim "Cliché Love Song"" "Cân Cariad Cliché" 9 74
24   Yr Iseldiroedd Saesneg The Common Linnets "Calm After the Storm" "Llonydd ar ôl y storm" 2 238
25   San Marino Saesneg Valentina Monetta "Maybe" "Efallai" 24 14
26   Y Deyrnas Unedig Saesneg Molly "Children of the Universe" "Plant y bydysawd" 17 40

Cyfeiriadau golygu