Cynlluniau cadwraeth ar raddfa eang yw dad-ddofi sydd yn ceisio adfywio ac amddiffyn bywyd gwyllt ac ehangu bioamrywiaeth mewn ecosystem benodol. Yn aml byddai hyn yn golygu ailgyflwyno rhywogaethau cynhenid, fel arfer rhywogaethau allweddol neu ysglyfaethwyr ar y brig, i'w cynefinoedd hanesyddol, mewn ymdrech i ddad-wneud effeithiau bodau dynol ar yr amgylchedd. Ffurf reoledig ar ailnaturio ydy dad-ddofi: nid yw'n galw ar fodau dynol i roi'r gorau i'w perthynas â'r amgylchedd, ond yn hytrach i ddefnyddio technegau cadwraethol a pheirianneg ecolegol i alluogi natur i ddychwelyd i ardaloedd sydd wedi'u hesgeuluso'n amgylcheddol, gan ddadwneud y difrod a wnaed gan ddiwydiannu, amaeth, trefoli, a llygredd. Y gobaith hir-dymor yw byddai adfer cynaladwyedd a phrosesau naturiol yn yr amgylchedd yn raddol yn creu ecosystem sydd yn gofalu am ei hunan heb ymyrraeth gan fodau dynol.

Cyflwynwyd rhwng 800 – 1,150 ceffyl gwyllt, Konik, ar 56km² o dir ar brosiect dad-ddofi yn Oostvaardersplassen, yn Flevoland, Yr Iseldiroedd

Dulliau golygu

Ailgyflwyno rhywogaethau golygu

 
Dad-ddofi ym Mharc Yellowstone trwy ail-gyflwyno'r blaidd

Un o brif ddulliau dad-ddofi yw ailgyflwyno rhywogaethau, yn enwedig ysglyfaethwyr ar y brig a chigysyddion mawr sydd yn effeithio ar eu holl ecosystem drwy "rhaeadrau troffig". Un o’r achosion amlycaf yw dychweliad bleiddiaid i Barc Cenedlaethol Yellowstone yn Unol Daleithiau America. Pan ddaeth y blaidd yn ôl i’r ardal, bu’n rhaid i geirw ac elcod newid eu hymddygiad, a threulio llai o amser ger dyfrfannau. Oherwydd bu llai o bori gan lysysyddion yn y lleoedd hyn, tyfodd mwy o goed a blodau ar lannau afonydd, gan atynnu rhagor o adar a phryfed. Wrth i’r coedwigoedd ehangu, dychwelodd afancod hefyd i’r afonydd, gan greu amodau er lles pysgod, amffibiaid, a mamaliaid eraill megis dyfrgwn. Mae’r blaidd hefyd yn cystadlu â’r coiote, sydd yn bwydo ar gnofilod, ac felly mae poblogaethau llygod ac ati wedi tyfu sydd o fudd i adar ysglyfaethus, gwencïod, llwynogod, a brochod Americanaidd. Yn ogystal, bwyteir burgynnod a adewir gan fleiddiaid gan gigfrain ac eryrod. Mae eirth hefyd yn bwydro ar furgynnod a’r mwyar sydd yn niferus o ganlyniad i’r gostyngiad mewn pori gan lysysyddion.

Dadamaethu golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Plannu golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dadleuon o blaid golygu

Un o ladmeryddion dad-ddofi yng Ngwledydd Prydain yw George Monbiot, amgylcheddwr a newyddiadurwr Seisnig sy'n byw yng Nghymru. Mae’n dadlau bod ffermio defaid yng Nghymru wedi difa bywyd gwyllt a chreu diffeithwch yng nghanolbarth Cymru.[1]

Dadleuon yn erbyn golygu

Ffermwyr a phobl eraill sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad sydd yn gwrthwynebu dad-ddofi gan amlaf. Maent yn dadlau bod hanes bodau dynol wedi creu economïau amaethyddol sydd yn cynnal cymunedau gwledig, ffyrdd cynaliadwy o gynhyrchu bwyd, a thraddodiad o gydfodolaeth heddychlon rhwng dyn a natur.

Mae rhai o feirniaid dad-ddofi yn awgrymu taw dinaswyr heb gysylltiad â chefn gwlad neu hyd yn oed casawyr dynolryw ydy’r rhai sydd fwyaf selog dros ddad-ddofi. Yn ôl prif weithredwr y Countryside Alliance: "No farmer is going to seriously argue that they should farm without any consideration of the environment or sustainability. Should we then be engaging with environmentalists who seriously argue for a countryside without farmers?"[2]

Cynlluniau yng Nghymru golygu

O'r Mynydd i'r Môr golygu

O'r Mynydd i'r Môr ydy'r cynllun dad-ddofi mwyaf ym Mhrydain Fawr, a'i nod yw creu un coridor hir ar draws Canolbarth Cymru i gefnogi rhywogaethau cynhenid ac i adfer corsydd mawn a choedlannau hynafol. Bu pryderon gan ffermwyr lleol am y prosiect.[3] Meddai un o swyddogion NFU Cymru: "A ydyn ni’n mynd i weld anifeiliaid eithafol yn dod i mewn i’r cymunedau yma? A gweld rhan fawr o dir amaethyddol yn cael ei wneud yn ddiffeithwch? A pha effaith mae hyn yn mynd i gael ar y bobol sy’n byw yn yr ardal a’r bobol sy’n ffermio yn yr ardal?"[4]

Coetir Anian golygu

Prosiect a weithredir gan elusen Sefydliad Tir Gwyllt Cymru yw Coetir Anian. Ei nod yw adfer coetir ac ailgyflwyno anifeiliaid coll ym Mynyddoedd Elenydd. Yn 2018, cyflwynwyd chwe cheffyl Konik i'r safle yn Mwlch Corog ger Machynlleth, gyda'r bwriad o gael y ceffylau i fwyta glaswellt y gweunydd ar yr ucheldir yno, gan alluogi i goed a phlanhigion eraill dyfu. Cafodd y dewis o geffylau Konik o Wlad Pwyl ei feirniadu gan ffermwr lleol, a ddywedodd: "Ma'en nhw wedi dod a merlod o Wlad Pwyl i bori, tra bod merlod cynhenid i Gymru fyny'r lôn."[5]

Prosiect Afancod Cymru golygu

Yn 2011, ailgyflwynwyd yr afanc gwyllt (Castor fiber) i Gymru am y tro cyntaf ers canrifoedd, ar fferm Blaeneinion ger Machynlleth.[6] Yn 2013, cafodd Afon Rheidol ei dewis fel safle ar gyfer ailgyflwyno'r afanc i'r gwyllt gan Brosiect Afancod Cymru, a ddatganai bod y cynllun "yn briodol oherwydd bod afancod yn perfformio gwaith sydd o fudd i'r ecosystem. Mae'n nhw'n rheoli corsydd, yn helpu i lanhau a rheoli adnoddau dŵr, yn ogystal â hybu twristiaeth ac economïau lleol."[7] Yn 2017 dewisiwyd ardal yn Sir Gaerfyrddin i ryddhau hyd at ugain o afancod i'r gwyllt gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Natur Cymru.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rob Collister, "Adolygiad Llyfr: Feral gan George Monbiot", Blas ar Eryri (Cymdeithas Eryri, hydref 2013). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2018.
  2. Tim Bonner, "Why ‘rewilding’ is the wrong debate[dolen marw]", Countryside Alliance (6 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2018.
  3. Steffan Messenger, "Ffermwyr yn 'bryderus ac amheus' am gynllun natur", BBC Cymru (7 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2018.
  4. "Dad-ddofi cefn gwlad canolbarth Cymru “yn hollol wallgof”", Golwg360 (16 Hydref 2018). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2018.
  5. "Cyflwyno ceffylau Pwylaidd i gefn gwlad Cymru yn “sarhad” medd ffermwr", Golwg360 (8 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2018.
  6. Iolo ap Dafydd, "Cynllun i ailgyflwyno afancod i Gymru", BBC Cymru (21 Tachwedd 2011). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2018.
  7. "Ail-gyflwyno afancod i Geredigion", BBC Cymru (17 Mai 2013). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2018.
  8. "Ymgais i ailgyflwyno’r afanc i’r gwyllt", Golwg360 (1 Medi 2017). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2018.

Dolenni allanol golygu