Daniel Gwydion Williams

Mae Daniel Gwydion Williams (fel rheol, Daniel Williams) (ganwyd Mai 1972) yn ddarlithydd, awdur a cherddor jazz. Mae'n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru, y cysylltiad rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau a phrofiadau, diwylliant a llenyddiaeth bobl ddu America, amlieithrwydd a theori a llenyddiaeth asgell chwith.

Daniel Gwydion Williams
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Magwyd Daniel Williams yn Aberystwyth lle fynychodd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn y dref. Mae'n un o ddau fab ac mae ei frawd, Tomos, yn canu'r trwmped gydag ef yn eu band jazz, 'Burum'.[1] Ei dad yw'r hanesydd, Gareth Williams sy'n arbenigwr ar hanes cymdeithasol Cymru y 19g a'r 20g ac yn arbennig hanes canu corawl a rygbi.

Mae Daniel yn byw ym Mhontardawe ac yn briod a ganddo ddau blentyn.

Mae'n Athro a darlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Abertawe.

Gyrfa Academaidd golygu

Addysgwyd ef ym Mhrifysgol East Anglia, Prifysgol Harvard a Choleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt. Mae bellach yn Athro Llenyddiaeth Saesneg Canolfan Richard Burton ar gyfer astudio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.[2]

Roedd yn Athro gwadd ym Mhrifysgol Harvard yn 2012, swydd a ariannwyd gan y Leverhulme Trust ac mae'n un o gyfarwyddwyr CREW, sy'n ganolfan ymchwil i lên ac iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe[3].

Llyfryddiaeth golygu

Awdur

Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2006)
Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).

Golygydd

Slanderous Tongues: Essays on Welsh Poetry in English 1970-2005 (Gwasg Seren, 2010)
Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Cymry (Gwasg Gomer, 2010)
Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (University of Wales Press, 2004) cyd-awdurwyd gydag Alyce von Rothkirch
Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity (University of Wales Press, 2003) golygydd casgliad o ysgrifau Raymond Williams
Safbwyntiau (2012 - ) golygydd cyffredinol y gyfres ar astudiaethau diwylliannol (Gwasg Prifysgol Cymru)
Writing Wales in English (Gwasg Prifysgol Cymru), cyfres o fonograffau CREW. Cyd-olygydd gyda Kirsti Bohata
The Celtic Nations and the African-Americas (2010) cyfrol arbennig a Astudiaethau Cymharol Americanaidd
Raymond Williams in Japan (2011) cyfrol arbenig o 'Keywords'

Cerddoriaeth golygu

Mae'n canu'r sacsoffon gyda'r chwechawd gwerin-jazz, Burum. Perfformiodd y band yng Gŵyl Ryng-geltaidd An Oriant yn Llydaw yn 2018.[4]

Discograffi golygu

Alawon: The Songs of Welsh Folk (Recordiau Fflach, 2007)
Caniadau (Recordiau Bopa, 2012)

Gwleidyddiaeth golygu

Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Cymuned Pontardawe.[5] Safodd fel ymgeisydd i Blaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 a 2019.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.burum.org/daniel-williams
  2. https://www.swansea.ac.uk/staff/arts-and-humanities/academic/williamsd/
  3. "CREW - Swansea University". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2022-06-03.
  4. https://www.burum.org/single-post/2018/04/09/Lorient-2018
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2018-11-30.