David Jones (AS Sir Gaerfyrddin)

Am bobl eraill o'r un enw, gweler David Jones (tudalen wahaniaethu).

Bancwr Cymreig a gwleidydd Geidwadol oedd David Jones (1 Tachwedd 18101 Gorffennaf 1869).[1]

David Jones
Ganwyd1 Tachwedd 1810 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1869 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Charterhouse Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, banciwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PriodMargaret Charlotte Campbell Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

David oedd mab ieuengaf John Jones, Blaenos, Llanymddyfri a Mary, merch William Jones Ystrad Walter, Caerfyrddin ei wraig. Roedd yn frawd i John Jones ei olynydd fel Cynrychiolydd Ceidwadol Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysgu yn ysgol Charterhouse

Priododd Margaret Charlotte Campbell, merch Syr George Campbell, 4ydd Barwnig yn 1845. Gwnaethant eu cartref ym Mharc Glanebrane, Llanymddyfri bu iddynt 2 ferch a 2 fab

Gyrfa golygu

Sefydlodd ei daid, David Jones arall, banc yn Llanymddyfri ym 1799, ac ar ei farwolaeth ym 1839 trosglwyddwyd y busnes i David a'i frodyr iau William a John. Ehangodd y brodyr y banc o dan yr enw David Jones a'i Gwmni.[2]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Ym mis Ebrill 1852 cafodd yr Anrh. George Rice Trevor -, un o'r ddau aelod seneddol dros Sir Gaerfyrddin, ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn Dinefwr ar farwolaeth ei dad. Arweiniodd hyn at sedd wag, ac fe'i dewiswyd Jones i amddiffyn y sedd ar ran y Ceidwadwyr. Fel yr unig ymgeisydd etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad i Dŷ'r Cyffredin ar 13 Mai. Daliodd y sedd am 16 mlynedd, yn cael ei dychwelyd heb wrthwynebiad ym mhob un etholiad cyffredinol. Erbyn 1868 roedd iechyd Jones yn fregus a dewisodd beidio â sefyll yr etholiad cyffredinol. Cafodd ei sedd ei ddal gan, John, ei frawd.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1845 a bu’n ddirprwy raglaw Sir Frycheiniog, Sir Gaerfyrddin a Sir Faesyfed

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref, Pantglas, Llanfynydd[3] a chladdwyd ei weddillion yng yng nghladdgell y teulu yn eglwys Cil-y-Cwm[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earlies times to the present day, 1541-1895
  2. "GWLAD YR HWNTWS - Y Dydd". William Hughes. 1869-07-30. Cyrchwyd 2016-11-01.
  3. "Notitle - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1869-07-08. Cyrchwyd 2016-11-01.
  4. Trawsysgrifiad meini coffa St Miahngel Cil-y-Cwm
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Rice-Trevor
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18521868
Olynydd:
John Jones