John Jones (AS Sir Gaerfyrddin)

Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).

Roedd John Jones (11 Rhagfyr 181526 Chwefror 1886) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin[1]

John Jones
Ganwyd11 Rhagfyr 1812 Edit this on Wikidata
Llanymddyfri Edit this on Wikidata
Bu farw28 Chwefror 1886 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbanciwr, gwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

John oedd mab ieuengaf John Jones, Blaenos, Llanymddyfri a Mary merch William Jones Ystrad Walter, Caerfyrddin. Roedd brawd John, David yn rhagflaenydd iddo fel Cynrychiolydd Ceidwadol Sir Gaerfyrddin.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Amwythig

Priododd ei gyfnither, Anne Thomas ferch David Thomas Wilfield, Sir Faesyfed.

Gyrfa golygu

Cafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1839 ond ni fu'n ymarfer fel bargyfreithiwr. Gwasanaethodd fel Is Raglaw Sir Gaerfyrddin ac Uchel Siryf y Sir ym 1854

Sefydlodd ei daid, David Jones, banc yn Llanymddyfri ym 1799, ac ar ei farwolaeth ym 1839 trosglwyddwyd y busnes i John a'i frodyr hyn David a William. Ehangodd y brodyr y banc o dan yr enw David Jones a'i Gwmni.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin o 1868 hyd 1880 pan gollodd y Ceidwadwyr un o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwr Walter Rice Howell Powell[2]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn sydyn wrth gerdded y caeau ger ei gartref yn 73 mlwydd oed [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Debrett's House of Commons 1870
  2. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earlies times to the present day, 1541-1895
  3. "SUDDEN DEATH OF MR JONES OF BLAENOS LLANDOVERY - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1886-03-04. Cyrchwyd 2016-10-31.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Jones
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18681880
Olynydd:
Walter Rice Howell Powell