Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg

Llyfr gramadeg Cymraeg gan Gruffydd Robert (c. 1527-1598) yw Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf ym Milan yn yr Eidal ar Ddydd Gŵyl Ddewi, 1567. Mae'r ail ran, ar y rhannau ymadrodd (cyfiachyddiaeth), yn ddi-ddyddiad, ond yn debyg o fod wedi ymddangos yn 1584 neu 1585.[1]

Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolgramadeg, llyfr Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1567 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Mae'r ddwy ran gyntaf yn defnyddio ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng Gr. (Gruffydd Robert ei hun) a Mo. (sef Morys Clynnog, ewyrth Robert. Nid yw'r drydedd ran (tonyddiaeth) yn defnyddio'r un ffurf, efallai am fod Morys Clynnog wedi boddi tua 1581 a Carlo Borromeo, y cyfeirir ato fel meistr neu arglwydd Gruffydd Robert yn y gramadeg, wedi marw ym 1584. Mae'r rhannau eraill yn fyrrach: mae'r bedwaredd ran yn trafod y cynganeddion a mesurau cerdd dafod; y bumed ran yn darparu casgliad o gerddi; a chynnwys y chweched ran yw dechrau cyfieithiad De Senectute gan Cicero.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir adargraffiad safonol o Ramadeg Gruffydd Robert gyda rhagymadrodd helaeth yn:

  • G. J. Williams (gol.) Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 G. J. Williams (gol.) Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert. Rhagymadrodd.