Rowan Williams

Diwynydd, darlithydd, bardd a chyn-Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012
(Ailgyfeiriad o Dr. Rowan Williams)

Esgob, diwynydd a bardd o Gymro Dr Rowan Douglas Williams, Arglwydd Williams o Ystumllwynarth (ganwyd 14 Mehefin 1950). Roedd yn Archesgob Caergaint rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.

Rowan Williams
GanwydRowan Douglas Williams Edit this on Wikidata
14 Mehefin 1950 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, gwleidydd, athro cadeiriol, offeiriad Anglicanaidd, bardd Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Caergaint, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, beirniad Gwobr Booker, Archesgob Cymru, Bishop of Monmouth, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJane Williams Edit this on Wikidata
PlantRhiannon Williams, Pip Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig, Urdd Cyfeillgarwch, Cadwen Frenhinol Victoria, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal y Llywydd, prix Giles, Palestinian Bethlehem 2000 Award Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Coleg Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.

Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003 a bu yn y swydd rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.[1][2]

Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cafodd ei dderbyn yn swyddogol i Dŷ'r Arglwyddi ar 14 Ionawr 2013. Roedd eisoes wedi eistedd fel un o'r Arglwyddi Ysbrydol, 26 o Esgobion Eglwys Lloegr sydd â sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Derbyniodd urddolaeth am oes wedi ei ymddeoliad fel Archesgob Caergaint.[3]

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau gan Rowan Williams golygu

Llyfrau amdano golygu

Rhagflaenydd:
Alwyn Rice Jones
Archesgob Cymru
19992002
Olynydd:
Barry Cennydd Morgan
Rhagflaenydd:
George Leonard Carey
Archesgob Caergaint
20022013
Olynydd:
Justin Welby

Cyfeiriadau golygu

  1. "Archbishop of Canterbury Rowan Williams to stand down". BBC News. 16 Mawrth 2012. Cyrchwyd 16 Mawrth 2012.
  2. "Archbishop of Canterbury: Vote to confirm Justin Welby". 10 Ionawr 2013. Cyrchwyd 10 Ionawr 2013.
  3. "Arglwydd Williams o Ystumllwynarth". BBC Cymru Fyw. 2013-01-15. Cyrchwyd 2024-05-14.