Mae'r Ddraig Wen yn hen symbol sy'n cynrychioli Lloegr a/neu'r Saeson, neu Wessex (sylfaen Teyrnas Lloegr). I'r Cymry mae'r delwedd o'r ddraig goch a'r ddraig wen yn ymaflyd a'i gilydd yn cynrychioli'r frwydr rhwng y Saeson a'r Cymry am Ynys Brydain, hanes a geir am y tro cyntaf yn yr Historia Brittonum gan Nennius (tua 800 OC). Lleolir y frwydr fytholegol dan sylfeini Dinas Emrys yn Eryri; mae'r dewin ifanc, Myrddin, yn esbonio i'r brenin Gwrtheyrn arwyddocâd yr ymladd, sy'n dymchwel y castell mae'r brenin yn ceisio adeiladu. Ar ôl blynyddoedd maith o ymladd, y Ddraig Goch fydd yn ennill y dydd.

Gwrtheyrn ac Emrys Wledig yn gwylio brwydr rhwng y ddraig goch a'r ddraig wen: darlun o lawysgrif o'r 15g o Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy (Llundain: Llyfrgell Palas Lambeth MS 6)

Ystyron eraill golygu

Mae grwp pagan yng Ngogledd America yn defnyddio'r delwedd hefyd. Mae blog gan Petroc ap Seisyllt wrth yr enw (ac hefyd wrth yr enw Saesneg White Dragon); pwrpas y blog hwn yw ymgyrchu am hawliau ieithyddol i'r Cymry sy'n byw yn Lloegr.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato