Cylchlythyr o'r wythdegau yw'r Ddraig Binc. Dyma'r cyntaf i ymddangos gan grŵp hoywon Cymraeg eu hiaith yn Llundain ond ymddangosodd gwrthwynebydd bron yr un amser gan grŵp hoyw yn Aberystwyth o'r enw Cylch[1][2]. Dewiswyd yr un enw gan y ddau grŵp sef CYLCH. Mae'r Ddraig yn hen symbol ar gyfer y Cymry. I'r Cymry mae'r ddelwedd o'r ddraig goch a'r ddraig wen yn ymaflyd â'i gilydd yn cynrychioli'r frwydr rhwng y Saeson a'r Cymry am oruchafiaeth yn Ynys Brydain. Felly mae fersiwn pinc yn drysu'r syniad yma o ddraig wen a draig goch, gan beri i bobl feddwl.

Mae'r ddau grŵp hoyw wedi dod i ben erbyn hyn. Mae hyn yn enghraifft o zeitgeist lle mae'r un syniad yn ymddangos mewn dau le ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae'r mudiad Cymraeg i Hoywon wedi diflannu i mewn i'r un Saesneg ei iaith. Ysgrifennodd John Sam Jones Welsh Boys Too, casgliad o straeon go iawn am Gymry hoyw. Mae gwaith Mihangel Morgan yn frith o hoywon hefyd ac yn aml heb i'r Cymry heterorywiol eu sylwi.

Gweler hefyd golygu

  1. T.,, Jobbins, Siôn. The phenomenon of Welshness. 2, Or 'Is Wales too poor to be independent?'. Llanrwst. ISBN 9781845274658. OCLC 880763616.CS1 maint: extra punctuation (link)
  2. Stanno, Iwan (2018-08-25). "Darllenwch yr erthygl briliant yma gan @MarchGlas (diolch am rannu Siôn!) am hanes Cymdeithas y Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith (Cylch) yn y 1990au. #PrideCymru Mae'n dod â lot o atgofion nôl… (EDEFYN…)https://twitter.com/MarchGlas/status/1033079981969162240 …". @stanno. Cyrchwyd 2019-02-12. line feed character in |title= at position 165 (help)