Dyfed Edwards

awdur a dramodydd o Gymro

Awdur a dramodydd Cymreig o Ynys Môn yw Dyfed Edwards (ganwyd Tachwedd 1966).[1]

Dyfed Edwards
Ganwyd1966 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Edwards ym Mangor a'i fagu yn Rhosmeirch, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yn Whistable, Caint. Dechreuodd ei yrfa gyda phapurau'r Herald yng Ngogledd Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio i'r Daily Post, y Journal yn Newcastle a'r Daily Mail.[2]

Mae wedi ennill Y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, y tro cyntaf yn 2008 yng Nghaerdydd am y ddrama Cors Oer,[3] ac yna flwyddyn yn ddiweddarach yn Y Bala am Tân Mewn Drain.[4] Bu'n newyddiadurwr am dros 20 mlynedd, ac mae wedi cyhoeddi nofelau a llyfrau ffeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyhoeddwyd ei nofel Iddew, a disgrifwyd gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015[5] fel "gwaith o athrylith", yn Mawrth 2016.

Mae ei lyfrau Saesneg wedi cyhoeddi dan y ffugenw Thomas Emson.[6]

Gwaith golygu

Ffuglen golygu

Ffeithiol golygu

Llwyfan golygu

Radio golygu

  • Cors Oer (BBC Radio Cymru, 2010)
  • Anfonwch Fil (BBC Radio Cymru, 2011)
  • Goleuni Yn Yr Hwyr (BBC Radio Cymru, Medi 2012)
  • Aderyn y Ddrycin (BBC Radio Cymru, Mawrth 2015)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dyfed Edwards"; Y Lolfa
  2.  Gwales - Bywgraffiad Awdur. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  3. "Medal ddrama i Dyfed"; BBC Newyddion
  4. "Winning drama medal ‘feels just as good the second time’"; Wales Online
  5. http://golwg360.cymru/celfyddydau/eisteddfodau/195419-mari-lisa-yn-ennill-gwobr-goffa-daniel-owen
  6. Edwards, Dyfed (2020-05-21). "Fi sy'n cadw i hynny, cofia. Awduron yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Nesh i ddyfeisio'r "Grid" pan o'n i'n gorfod sgwennu dwy nofel y flwyddyn yn Saesneg o dan fy ffugenw, Thomas Emson. Faswn i byth wedi llwyddo oni bai 'mod i'n creu targedi i fi fy hun". @dyfededwards. Cyrchwyd 2020-05-21.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.