Creadur o fytholeg Roeg a Rhufeinig a chanddo gorff a choesau ceffyl a phen, breichiau a bongorff (torso) dyn yw dynfarch.[1] Yn ôl y Groegiaid gynt, buont yn byw ym mynyddoedd Thesalia ac Arcadia ac yn epil i Ixion, Brenin y Lapith. Wedi iddynt geisio cipio priodferch Pirithous, mab Ixion, cawsant brwydr â'r Lapith. Yn sgil trechiad y dynfeirch gan y Lapith, cawsant eu gyrru o Fynydd Pelion.[2]

Dynfarch
Enghraifft o'r canlynolfictional taxon Edit this on Wikidata
Mathmythical human-animal hybrid, cymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshuman torso, ceffyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brithwaith modern o'r Eidal sy'n portreadu dynfarch.

Cyfeiriadau golygu

  1.  dynfarch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
  2. (Saesneg) Centaur (Greek mythology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato