Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban

Enwad Cristnogol yw Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban (Saesneg: Reformed Presbyterian Church of Scotland) ac eglwys wreiddiol y traddodiad Presbyteraidd Diwygiedig yw hi. Ffurfiwyd yr Eglwys ym 1690 pan wrthododd ei haelodau fod yn rhan o sefydlu Eglwys yr Alban. Ym 1876, ymunodd y rhan helaeth o'r Presbyteriaid Diwygiedig ag Eglwys Rydd yr Alban ac felly eglwys barhaus yw'r Eglwys Bresbyteriadd Ddiwygiedig heddiw. Mae ganddi eglwysi yn An t-Àrd Ruigh (Airdrie), An t-Sròn Reamhar (Stranraer), Steòrnabhagh (Stornoway), Glaschu (Glasgow) ac egin-eglwysi yng Nghaeredin er 2011 ac yn Sruighlea (Stirling) er 2013.

Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban ym mhentref Hightae (yn y canol ar y dde)

Credau golygu

Cred Presbyteriaid Diwygiedig mai'r Beibl yw'r safon uchaf dros gred ac ymarferiad, a dderbynnir yn Air ysbrydoledig ac anffaeledig Duw.

Mae diwinyddiaeth Bresbyteraidd Ddiwygiedig yn apostolig, Protestannaidd, Diwygiedig (neu Galfinaidd) ac efengylaidd. Mae awydd cadw'r ffydd Gristnogol y mae wedi'i derbyn o'r dechrau yn ei dyfnder a'i phurdeb, ac felly mae'n glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster fel ei safon isradd. Nid yw egwyddorion syflaenol yr enwad yn wahanol i rai llawer o eglwysi eraill. Gwelir yr amlygrwydd y mae diwydnyddiaeth Bresbyteraidd Ddiwygiedig yn ei roi i frenhiniaeth Crist yn ei haddoliad a'i gwleidyddiaeth, er enghraifft, drwy ganu'r Salmau yn ddigyfeiliant mewn addoliad cyfun yr eglwys. Hefyd, maent yn credu bod y genedl yn gorfod cydnabod Crist fel ei brenin a llywodraethu ei holl faterion yn ôl ewyllys Duw, er bod y genedl wedi diarddel hyn bellach.

Dywed cyfansoddiad yr Eglwys[1] ei bod hi "am gyflwyno tystiolaeth gadarnhaol i'r efengyl yn gyffredinol, ac i egwyddorion crefydd Ddiwygiedig a Phresbyteraidd yn arbennig, yn yr Alban a thrwy gydol y byd. Hynny yw, nid eglwys wrthdystiol yn bennaf yw'r eglwys – er mai dyna beth ydyw – ond eglwys gyffesol yw hi: eglwys sydd yn ceisio bod yn un fyw, gadarnhaol a thystiolaethol, gan ymdrechu i gyflawni ei chenhadaeth, y mae'n ei deall nad yw'n llai na gorchymun Crist: 'Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi (Mathew 28:19,20)."

Hanes golygu

 
Y Cyfamod Cenedlaethol o 1638 yn Amgueddfa Tŷ Huntly yng Nghaeredin. Credir mai dyma'r cyfamod gwreiddiol y gwnaethpwyd copïau eraill ohono.
 
Y Faner Las, sef arwyddlun Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban a ddefnyddir er 1639

Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at y Presbyteriaid Diwygiedig fel Cyfamodwyr gan eu bod yn cael eu huniaithiaethu â chyfamodi cyhoeddus yn yr Alban, gan gynnwys yn y 16g. Fel ymateb i ymdrechion y Brenin i newid arddull addoli a dull llywodraethu'r eglwysi yr oedd y cynulleidfaoedd rhydd a'r seneddau eisoes wedi cytuno (cyfamodi) arnynt, datganodd nifer o weinidogion eu hymlyniad â'r cytundebau blaenorol hynny drwy lofnodi'r "Cyfamod Cenedlaethol" ym mis Chwefror 1638 yn Eglwys Greyfriars yng Nghaeredin. O hyn y daw'r Faner Las, sydd yn dwyn y geiriau "Dros Goron Crist a'r Cyfamod", wrth i'r Cyfamodwyr weld ymgais y Brenin i newid yr eglwys fel ymgais i hawlio ei phenarglwyddiaeth gan Iesu Grist. Ym mis Awst 1643, llofnododd y Cyfamodwyr gytundeb gwleidyddol â Seneddwyr Lloegr o'r enw "Y Gynghrair a'r Cyfamod Difrifol". Dan y cyfamod hwn, cytunai'r llofnodwyr i sefydlu Presbyteriaeth fel eglwys genedlaethol Lloegr ac Iwerddon. Yn gyfnewid am hyn, roedd y Cyfamodwyr yn cytuno i gefnogi'r Seneddwyr yn erbyn Siarl I o Loegr yn y Rhyfel Cartref.

Roedd y Gynghrair a'r Cyfamod Difrifol yn arddel breintiau "hawliau coron" yr Iesu fel Brenin yr Eglwys a'r Wlad, a hefyd hawl yr Eglwys i ryddid rhag ymyrryd gorfodol y Wlad. Rhoddodd Oliver Cromwell yr annibynwyr mewn grym yn Lloegr, a oedd yn arwydd o ddiwedd y diwygiadau wedi'u haddo gan y Senedd. Pan adferwyd y frenhiniaeth ym 1660, roedd rhai Prebyteriaid yn rhoi eu gobeithion yn y brenin cyfamodedig newydd, oherwydd i Siarl II dyngu i gadw'r cyfamodau yn yr Alban ym 1650 a 1651. Er hynny, penderfynodd Siarl II nad oedd am glywed sôn am y cyfamodau hyn. Wrth i fwyafrif y boblogaeth gymryd rhan yn Eglwys Sefydledig y wlad, roedd y Cyfamodwyr yn anghydffurfio'n gryf, gan gynnal gwasanaethau addoli anghyfreithlon yng nghefn gwlad. Bu iddynt ddioddef yn ddirfawr yn yr erlidigaeth a ddaeth, yn enwedig yn amser y "Killing Time", enw'r cyfnod gwaethaf o erlid, yn ystod dyddiau Siarl II a Iago VII.

Ym 1691, adferwyd Presbyteriaeth i Eglwys Sefydledig yr Alban, ond, oherwydd nad oedd penarglwyddiaeth Crist yn cael ei chydnabod yn nhermau'r Gynghrair a'r Cyfamod Difrifol, gwrthododd carfan o anghydffurfwyr gytuno â'r drefniant cenedlaethol hwn, "Trefniant y Chwyldro", am fod yr Eglwys yn cael ei gorfodi i dderbyn rhywbeth nad oedd yn glynu wrth drefniant cyfamodedig blaenorol y wlad. Ymgasglodd yr anghydffurfwyr hyn mewn cymdeithasau a ddaeth, yn y pen draw, yn Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban. Yn y cyfamser, pan gychwynnodd yr erlidigaeth wedi i Siarl II gyhoeddi Cyfamodau'r Alban yn anghyfreithlon, roedd degau o filoedd o Gyfamodwyr wedi ffoi o'r Alban i Wlster rhwng 1660 a 1690. Y Cyfamodwyr hyn a sefydlodd Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Iwerddon yn nes ymlaen.

Ar ôl Trefniant y Chwyldro, ymunodd pob un o ychydig weinidogion y Cyfamodwyr a oedd ar ôl â'r Eglwys Sefydledig ym 1690, gan adael y "Cymeithasau Unedig" heb weinidogion am 16 flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y Cyfamodwyr Anghydffurfiol yn cynnal eu Cymdeithasau ar gyfer addloli a gohebu crefyddol. Roedd rhyw 20 o Gymdeithasau ac ynddynt tua 7,000 o aelodau.

Ym 1706, cynigiwyd swydd gweinidog y Cymdeithasau Anghydffurfiol i'r Parch. John Macmillan. Gweinidog plwyf Baile Mac Aoidh (Balmaghie) oedd ef ar y pryd a dyn eithriadol o benderfynol a gonest ydoedd. Ceisiasai ddwyn perswâd ar ei gyd-henuriaid a gweinidogion i ddychwelyd i dir y Cyfamod yr oeddynt wedi cefnu arno, er bod hyn yn ofer ac iddo gael ei ddiswyddo am ei ddyfalbarhad yn hyn o beth. Derbyniodd swydd gweinidog y Cymdeithasau ac roedd bendith fawr ar ei waith ymhlith rhannau'r corff Cameronaidd a oedd ar wasgar.

Yn nes ymlaen, ym 1743, ymunodd gweinidog arall, y Parch. Thomas Nairne, a oedd wedi gadael yr Eglwys Sefydledig ac ymaelodi â'r Henaduriaeth Gysylltiedig, â'r Cymdeithasau, a ddaeth yn Henaduriaeth Ddiwygiedig yr Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig y pryd hwnnw. Cynyddodd niferoedd yr Eglwys ac felly ym 1810 fe'i rhannwyd yn dair – Henduriaethau'r Dwyrain, y Gogledd a'r De. Y flwyddyn wedyn, cyfarfu'r henaduriaethau hyn fel Synod cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban, ac yn yr un flwyddyn roedd Eglwysi Presbyteraidd Diwygiedig Iwerddon a Gogledd America, disgynyddion yr Eglwys yn yr Alban, yn ddigon cryf i sefydlu eu Synodau cyntaf yr un.

Yr Eglwys Fyd-Eang golygu

Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban berthynas â'r eglwysi canlynol eraill sydd yn arddel yr enw "Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig":

Gogledd America golygu

Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Gogledd America 89 o eglwysi yn UDA a Chanada, gan gynnwys nifer o egin-eglwysi. Yn ogystal â'r rheiny, ym Mhensylfania mae ganddi athrofa ddiwinyddol yn Pittsburgh, coleg trydyddol, Coleg Geneva, yn Beaver Falls, cyhoeddwr a chartref i'r henoed.

Iwerddon golygu

Mae cysylltiadau ag Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Iwerddon yn arbennig o gryf ers 300 mlynedd. 36 o egwlysi a thair egin-eglwys sydd gan yr eglwys yn Iwerddon, yn bennaf yng Ngogledd Iwerddon. Mae ganddi ei choleg ddiwynyddol ei hun yn ogystal â siop lyfrau a chartref henoed.

Japan golygu

Sefydlodd Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Gogledd America Henaduriaeth Japan fel rhan o'i gwaith cenhadol ac mae ganddi bedair eglwys ac un egin-eglwys. Mae'n cadw coleg diwynyddol a siop lyfrau yn ninas Kobe.

Awstralia golygu

Tair cynulleidfa sydd yn Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Awstralia, a gafodd ei phlannu gan Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig Iwerddon.

Cenadaethau Tramor golygu

Ffrainc golygu

Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr Alban fewnbwn uniongyrchol mewn gwaith cenhadol yn Naoned, Ffrainc, drwy law pwyllgor cenhadol dan arolygiaeth Eglwysi Bresbyteraidd Ddiwygiedig Iwerddon a'r Alban.

Swdan a Chyprus golygu

Mae diddordeb mawr gan yr eglwys yn yr Alban yn y gwaith cenhadol yn Swdan ac yng Nghyprus dan arolygiaeth Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig America.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Constitution of the Reformed Presbyterian Church of Scotland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-05. Cyrchwyd 2015-06-16.

Dolenni allanol golygu