Einion II, Esgob Llanelwy

esgob Llanelwy

Clerigwr Cymreig oedd Einion II (Lladin: Anian II) (bu farw 1293), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1268 hyd ei farwolaeth yn 1293. Cyfeirir ato hefyd fel Einion ab Ynyr neu Einion o Nannau (Anian o Nannau).[1]

Einion II, Esgob Llanelwy
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw1293, 5 Chwefror 1293 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethEsgob Llanelwy, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Bu'n esgob mewn cyfnod helbulus. Llosgwyd Eglwys Gadeiriol Llanelwy gan y Saeson yn 1292 yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[1] Ailadeiladwyd yr eglwys gan Einion ar ôl hynny.

Cofeb golygu

Ceir delw o Einion II wedi'i cherfio o garreg yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae'n ddelw gonfensiynol sy'n dangos Einion mewn gwisg laes hir yn gorwedd ar ei gefn. Saif y ddelw yn erbyn mur deheuol ystlys deheuol yr eglwys.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986).


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.