Ellis Owen Ellis

arlunydd (1813 -1861)

Arlunydd a oedd yn gweithio yn y meysydd celf a phensaernïaeth oedd Ellis Owen Ellis (181317 Mai 1861). Arddangoswyd rhai o'i weithiau mewn orielau yn Llundain; efallai mai ei waith mwyaf adnabyddus yw The Battle of Rhuddlan Marsh, Caradog before Caesar in Rome a The Fall of Llywelyn, the last Prince of Wales.

Ellis Owen Ellis
Ganwyd1813 Edit this on Wikidata
Aber-erch Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Ellis ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon. Roedd ei fam yn ferch i John Roberts ('Siôn Lleyn') ac roedd hefyd yn perthyn i John Thomas (Siôn Wyn o Eifion). Cafodd brentisiaeth fel saer coed ond roedd o mor dalentog roedd Syr Robert Williames Vaughan wedi trefnu iddo gyfarfod Syr Martin Archer Shee, paentiwr, ac fe'i cyflwynwyd gan Shee i arlunwyr eraill yn Llundain, lle aeth Ellis yn 1834 i astudio ac i baentio.[1]

Ffynonellau golygu

  • NLW MSS1804, 1889, 9256;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the *present (1908);
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (1870);
  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enwogion Sir Gaernarfon (1922)

Cyfeiriadau golygu

  1. "ELLIS, ELLIS OWEN ('Ellis Bryncoch'; 1813 - 1861), arlunydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.