Englyn Proest Dalgron
Mae'r englyn proest dalgron yn un o Hen XXIV Mesur Cerdd Dafod. Fodd bynnag, canwyd y rhan fwyaf o awdlau enghreifftiol ar fesurau Dafydd Ddu Athro neu fesurau Dafydd ab Edmwnd, gan hepgor y mesur hwn.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mae'n un o dri englyn proest a nodir yng Ngramadeg Einion Offeiriad. Nodir yn y llawysgrifau:
Tri rhyw englyn proest yssydd,
sef Proest dalgron, Lleddfbroest a Phroest gadwynog.
Enw golygu
Gan amlaf, caiff proest ei drin fel enw gwrywaidd, er enghraifft Proest llafarog. Noda Geiriadur Prifysgol Cymru ei fod yn enw gwrywaidd-benywaidd, ac yn y llawysgrifau sy'n cofnodi'r gramadegau cynnar, fe'i trinnir fel enw benywaidd, gan roi inni broest dalgron yn hytrach na phroest talgrwn.
Nodweddion golygu
Llunnir englyn proest dalgron gyda phedair llinell saith sillaf o hyd, gydag aceniad y prifodlau proest yn rhydd. Yn hytrach na odli, mae'r llinellau yn ffurfio proest dalgron â'i gilydd. Gall y llinellau derfynu gyda llafariad seml neu ddeusain dalgron heb neu gyda chytsain yn ei dilyn.
Dyma enghraifft o waith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, gyda phob proest yn acennog a chyda llafariad ysgafn:[1]
Eurawdd Iorwerth geinferth gân
Erllynedd, gwir gyfedd gwin,
Arawd teg o oreu tôn
O rodd Duw a eurawdd dyn.
Ac eto, gan yr un bardd:
Adeilwyd bedd, gwedd gwiwder,
F'eneid, i'th gylch, o fynor:
Adeilawdd cof dy alar
I'm calon, ddilon ddolur.
Sylwer mai cynghanedd sain bengoll yw'r llinell gyntaf; cynghanedd anghywir yn ôl safonau heddiw ond cynghanedd a ddefnyddid yn fynych gan y cywyddwyr cynnar.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
Gweler hefyd golygu
Llyfryddiaeth golygu
- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)