Drama ddychanol gan Saunders Lewis yw Excelsior, a gyhoeddwyd fel drama lwyfan yn 1980.

Excelsior
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrGwasg Christopher Davies
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1980
GenreDrama

Fe'i sgwennwyd gan Saunders Lewis fel drama deledu ar gais y BBC i'w dangos ar Ddygwyl Dewi 1962 a'i hail-ddarlledu ar ôl hynny. Ond achoswyd cymaint o helbul gan y darllediad cyntaf fel na ddarlledwyd hi am yr ail dro yn wyneb bygythiad gan yr Aelod Seneddol Lafur Leo Abse i fynd â'r awdur a'r Gorfforaeth i'r gyfraith am enllib. Ceir yr hanes yn llawn yn rhagymadrodd Saunders i'r ddrama lwyfan.

Comedi ddychanol am fyd gwleidyddiaeth Cymru a geir yn Excelsior; golwg deifiol ar ysbryd uchelgais mewn unigolion a pharodrwydd gwleidyddion (o bob lliw) i werthu eu hegwyddorion.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.