Felodrom Cenedlaethol Cymru

Arena dan do yng Nghasnewydd yw Felodrom Cenedlaethol Cymru a leolir ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Llyswyry. Mae adnoddau'r Felodrom yn cynnwys trac 250 metr dan do wedi ei wneud o binwydd Siberiaidd, ystafell digwyddiadau/stiwdio ddawns, ystafell bwysau rhad ac am ddim, ystafell ffitrwydd, ystafell profi cyffuriau ac arena chwaraeon amlbwrpas dan do.

Felodrom Cenedlaethol Cymru
Mathlleoliad chwaraeon, Vélodrome Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol2003 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2003 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPentref Chwaraeon Rhyngwladol Edit this on Wikidata
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5741°N 2.9572°W Edit this on Wikidata
Map

Mae ganddi seddi ar gyfer 500 o wylwyr. Mae Felodrôm Casnewydd yn gartref i Bencadlys Beicio Cymru a Chlwb Beicio Velo Ieuenctid Casnewydd .

Mae trac awyr agored beicio speedway wedi ei leoli yn y Felodrom.

Defnyddiwyd y Felodrom gan y tîm beicio Prydeinig ar gyfer ei gwersylloedd paratoi cyn Gemau Olympaidd yr Haf 2008, 2012 a 2016.[1]

Cyhoeddwyd ym mis Awst 2018 y byddai'r Felodrôm yn cael ei hail-enwi ar ôl enillydd Cymreig cyntaf y Tour de France, sef Geraint Thomas.[2]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Newport velodrome". Cycling Weekly. 14 Awst 2014. Cyrchwyd 9 August 2015.
  2. http://www.newport.gov.uk/en/Council-Democracy/News/articles/2018/August-2018/Velodrome-to-be-renamed-in-honour-of-Tour-de-France-victor.aspx