Gwefan sy'n casglu trydariadau Cymraeg ynghyd â chynnig rhestr o bynciau sy'n trendio yw Ffrwti. Cafodd ei sefydlu gan Nwdls Cyf a'i lansio yng Nghynhadledd Hacio'r Iaith ym Mangor ym mis Ionawr 2014.[1][2] Mae Ffrwti'n bartneriaeth rhwng Nwdls Cyf a chwmni Code Syntax o Wlad y Basg yn dilyn grant i hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg gan Lywodraeth Cymru.[3][4]

Ffrwti
URL http://www.ffrwti.com
Slogan Trydar yn Gymraeg
Math o wefan Coladu trydariadau Cymraeg o Twitter, newyddion
Cofrestru Dewisol
Ieithoedd ar gael Cymraeg
Perchennog Nwdls Cyf
Crëwyd gan Rhodri ap Dyfrig, Code Syntax
Lansiwyd ar 24 Ionawr, 2014

Cyfeiriadau golygu

  1. (Cymraeg) Rhodri ap Dyfrig (9 Ebrill 2014). Mwy am Ffrwti. Ffrwti.
  2. Gwefan Hacio'r Iaith; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. awdur: Carl Morris; Teitl: Wedi methu Hacio’r Iaith? 14 peth gwahanol o’r digwyddiad yn 2014; adalwyd 10 Ebrill 2014.
  3. The Welsh Twitterati: Bringing Everyone Together Rising Voices gan Lura Morris 3.3.2014
  4. Dyfarnu grantiau i hyrwyddo technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg[dolen marw] Llywodraeth Cymru yn dyfarnu grantiau i chwe phrosiect o dan ei rhaglen 2013-14

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.