Ffynnon Santes Wenfaen

ffynnon sanctaidd ar Ynys Gybi

Mae ffynnon Wenfaen wedi ei lleoli yn Rhoscolyn ar Ynys Môn. Gwelir y ffynnon rhyw hanner milltir o'r eglwys. Mae'r eglwys uwchben y môr ar lethr orllewinol Porth Gwalch. Mae'r ffynnon mewn cyflwr da hyd heddiw ac llwybr cerrig yn arwain ati. Llifa'r dŵr ohoni i'r môr ym Mhorth y Saint.

Ffynnon Santes Wenfaen
Enghraifft o'r canlynolffynnon sanctaidd Edit this on Wikidata
Rhan oRhestr Henebion Cofrestredig Ynys Môn Edit this on Wikidata
LleoliadRhoscolyn Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthRhoscolyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

"Llanwenfaen" oedd yr enw gwreiddiol ar Rhoscolyn. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Santes Gwenfaen. Tad Gwenfaen oedd Pawl Hen ac roedd hi'n chwaer i Peulan a Gwyngeneu. Yn ôl traddodiad roedd angen offrymu dwy garreg cwarts wen i Wenfaen. Mae enw'r santes (Gwenfaen) yn gyfystyr a charreg wen – gwen faen.[1]

Lewis Morris golygu

Enw adnabyddus sydd â chysylltiadau efo'r ffynnon oedd y llenor a'r hynafiaethydd Lewis Morris. Priododd Elin Griffith, Tŷ Wildrin, Rhoscolyn yn 1729 ac roedd ei chartref hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ffynnon. Roedd Morris yn gyfarwydd â holl draddodiadau a hanesion y ffynnon. Yn ei gerdd The Sacred Well of Gwenfaen, Rhoscolyn mae'r awdur yn sôn am ddwr y ffynnon a'i effeithiau. Roedd pobol yn dod at y ffynnon i wella o'u hafiechydon meddyliol. Ysgrifennodd Morris ei fod ef ei hun wedi ymweld â'r ffynnon arbennig hon.

Full oft have I repaired to drink that spring waters which cure diseases of the soul as well as body, and which always prove the only remedy for want of sense.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)