George Ewart Evans

llenor ac hanesydd llafar

Llenor ac hanesydd llafar o Gymro oedd George Ewart Evans (1 Ebrill 190911 Ionawr 1988). Roedd yn gasglwr llên gwerin, hanes llafar a thraddodiadau llafar yng ngefn gwlad Nwyrain Anglia. [1] Ganwyd yn Abercynon (Sir Forgannwg bryd hynny). Fe'i enwyd ar ôl William Ewart Gladstone y cyn-Brif Weinidog Rhyddfrydol. Astudiodd y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd o 1927 i 1930, a daeth yn ysgolfeistr yn Swydd Gaergrawnt yn 1931. Ym 1938 priododd Ellen Florence Knappett (1907–1999), Crynwraig o athrawes. Cyhoeddodd straeon byrion a cerddi yn Saesneg mewn cyfnodolion fel y Left Review a Wales. Enillodd wobr gyntaf am ddrama radio Saesneg am ddamwain dan ddaear yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939. Bu gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

George Ewart Evans
Ganwyd1 Ebrill 1909 Edit this on Wikidata
Abercynon Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Brooke Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ar ôl y rhyfel ni allai ddychwelyd at ei hen alwedigaeth fel athro, gan ei fod yn dioddef o nam ar ei glyw, a chafodd brofiad o iselder ysbryd am gyfnod. Ond ym 1948 cafodd ei wraig swydd fel athrawes yn ysgol bentrefol Blaxhall, Suffolk, a darganfodd Evans yr awdur thema newydd, sef yr hen ddiwylliant gwledig yn yr ardal ddiaffordd lle roeddynt yn byw bellach. Astudiodd yr hen arferion a defodau gwaith ei gymdogion, eu hiaith a geirfa, a gwnaeth recordiadau ohonynt. Trwy hynny daeth yn arloeswr ym maes hanes llafar. Cyhoeddodd gyfres o lyfrau ar y thema hon, gan gynnwys: Ask the Fellows who Cut the Hay (1956), The Horse in the Furrow (1960), The Pattern under the Plough (1966), Where Beards Wag All (1970), The Days that We have Seen (1975) a Horse Power and Magic (1979).

Yn y 1970au dychwelodd i dde Cymru ac i brofiadau hen löwyr y glo caled yng Nghwm Dulais i'r gogledd o Gastell-nedd, a chyhoeddodd eu storiau yn From Mouths of Men (1976). Er iddo gynnal cysylltiadau agos â Chymru ar hyd ei oes, parhaodd i fyw yn Nwyrain Anglia. Bu'n treulio cyfnodau yn Blaxhall (1948-56), Needham Market (1956-62) a Helmingham (1962-8) – ill tri yn Suffolk – ac wedyn yn Brooke, Norfolk, lle y bu marw.

Roedd yn dad i'r gwleidydd Matthew Evans, barwn Evans o Temple Guiting (1941–2016).

Astudiaethau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gareth W. Williams (2008). "Evans, George Ewart (1909-1988), llenor ac hanesydd llafar". Cyrchwyd 13 Ebrill 2022.