Cyfres deledu comedi llwyfan (neu standup)[1] yw Gig-l. Fe'i darlledwyd rhwng Ionawr a Chwefror 2013.

Cyfarwyddwyd y gyfres gan Siôn Llwyd a chynhyrchwyd y gyfres gan Siôn Llwyd ac Alaw Roberts. Y cwmni cynhyrchu yw Little Lamb Media. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Steffan Rhys Williams.

Fformat golygu

Cyflwynwyd pob pennod gan Frank Honeybone, gyda sawl digrifwr yn perfformio ym mhob un, ac ambell bennod yn cynnwys person yn perfformio comedi am y tro cyntaf mewn slot meic agored.

Rhestr o'r penodau golygu

Rhif Digrifwyr Meic agored Lleoliad Dyddiad darlledu
1x01 Steffan Alun, Rhodri Rhys, Noel James a Dan Thomas Alun Saunders Cross Hands 11 Ionawr 2013
1x02 Noel James, Iwan a Steff, Rufus Mufasa, Elidir Jones a Dan Mitchell Dim Bangor 18 Ionawr 2013
1x03 Dan Thomas, Iestyn Jones, Phil Cooper, Rhodri Rhys Aled Richards Cross Hands 25 Ionawr 2013
1x04 Iwan a Steff, Steffan Alun, Noel James, Elidir Jones, Rufus Mufasa, Phil Cooper Dim Bangor 1 Chwefror 2013

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan S4C Archifwyd 2013-03-19 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 2/05/2013