Goresgyniad Hwngari gan y Mongolwyr (1241–42)

Ym 1241–42, goresgynnwyd Teyrnas Hwngari gan fyddinoedd y Mongolwyr, gan achosi difrod a lladdfa ar raddfa eang ar draws y wlad.

Cefndir golygu

Ers y 1220au, bu'r Mongolwyr yn ymosod ar gyrion dwyreiniol Ewrop. Ym 1237 dygasant gyrchoedd ar Gwmania, cydffederasiwn o lwythau Tyrcig y Cwmaniaid a'r Kipchak yn y stepdiroedd i'r dwyrain. Ffoes nifer o'r nomadiaid i diriogaeth Hwngari, a rhoddid loches iddynt gan y Brenin Béla IV a geisiodd recriwtio'r rheiny—Cwmaniaid Mwslimaidd yn bennaf—ar ochr y frenhiniaeth yn erbyn uchelwyr sirol ei deyrnas yn ogystal â'r Mongolwyr. Fodd bynnag, codwyd gwrychyn y pendefigion gan bresenoldeb y rhyfelwyr hyn, a llofruddiwyd arweinydd y Cwmaniaid. Ffoes ei ddilynwyr i'r de, i wastadedd Walachia, pan oedd y Mongolwyr ar fin ymosod ar Hwngari, gan chwalu cynllun Béla IV i wrthsefyll goresgyniad o'r fath. Yn niwedd 1240, cwympodd Rws Kyiv i luoedd Batu Khan, gan alluogi'r Llu Euraid i oresgyn Canolbarth Ewrop. Aeth Béla IV ati i atgyfnerthu ei amddiffynfeyd, ond methiant a fu ei ymdrechion i berswadio'r uchelwyr i baratoi'n ddigonol am ryfel.

Cychwyn y goresgyniad golygu

Ymgynulliodd byddinoedd y Mongolwyr yn rhanbarth Volynia, ac oddi yno goresgynasant Hwngari yn nhymor y gwanwyn 1241. Anfonodd Batu hefyd luoedd i'r Pwyldir, dan arweiniad y cadfridogion Orda a Baidar, rhag ofn i Béla IV alw ar gymorth oddi ar ei berthnasau dugol yn y wlad honno.[1] Lansiwyd yr ymgyrch Bwylaidd ychydig wythnosau cyn goresgyniad Hwngari, gydag ymosodiad chwim ar dref Sandomir ar 13 Chwefror 1241 a buddugoliaeth yn erbyn byddin Bolesław V, Dug Cracof a Sandomir (mab-yng-nghyfraith Béla), ar 18 Mawrth. Ffoes Bolesław i Hwngari, ac aeth Baidar ymlaen i Ddyffryn Oder, gan wthio lluoedd Silesia Uchaf i dynnu'n ôl i'r gorllewin. Ar 9 Ebrill bu farw Bolesław ac Henryk II, Dug Silesia Isaf (cefnder Béla), ym Mrwydr Legnica, a rhoes y Mongolwyr ben Henryk ar waywffon i frawychu'r boblogaeth. Ymosododd minteioedd Orda a Baidar ar Lwsatia ac Ardalyddiaeth Meissen yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig cyn troi i'r de a chroesi Morafia i ailymuno â Batu yn Hwngari.[2]

Ar 10 Mawrth, pan oedd Béla yn trafod â'r uchelwyr Hwngaraidd yn Ofen, cafwyd newyddion am lwyddiant cyntaf y Mongolwyr wrth dorri bylchau caerog ym Mynyddoedd Carpathia, a hynny gan Batu a Sübe'etei ym Mwlch Verecke (Porta Rusciae). Fe'u dilynwyd gan dair byddin arall, y cyntaf dan arweiniad Qadan a Büri drwy Fwlch Borgó ar 28 Mawrth, ac yna dwy golofn dan orchymyn Böchek a Bogutai (o bosib Baghatur) a oresgynnodd Hwngari o'r de-orllewin. Galwodd Béla ei fyddin frenhinol i wersyllu yn Pest, ar lan Afon Donaw, ac yno arhosodd am luoedd atgyfnerthol ei uchelwyr. Rhwystrodd yr ymdrech i ymfyddino gan gyrchoedd y Mongolwyr ar drefi wrth iddynt ymdreiddio i'r wlad, a chafwyd o leiaf un ysgarmes rhwng y fyddin frenhinol a'r goresgynwyr yng ngwastadedd Rákos ger Pest.[3]

Brwydr Móhi golygu

Ar 6 Ebrill 1241 arweiniodd Béla IV ei fyddin, gyda marchogion ychwanegol o Urdd y Deml, i wastadedd Móhi, yn cyffinio ag Afon Sajó. Ar lan gyferbyn yr afon safai'r pedair byddin Fongolaidd, rhai ohonynt wedi eu cuddio o olwg yr Hwngariaid. Methodd y fyddin frenhinol i warchod y bont gerllaw, a alluogai ragor o Fongolwyr i groesi'r afon, a gosododd wagenni o amgylch ei gwersyll, penderfyniad trychinebus a fyddai'n rhwystro symudiadau'r Hwngariaid pan gwympai saethau'r gelyn. Amgylchynwyd lluoedd Béla, ac yn y frwydr ar 11 Ebrill caniatáodd y Mongolwyr i ambell fintai Hwngaraidd—gan gynnwys Béla ei hun, a'i frawd Kálmán—i dorri drwy eu rhengoedd, cyn rhuthro ar y gweddill a'u gyrru ar ffo. Credir i'r mwyafrif o'r Hwngariaid gael eu lladd, nid yn unig yn yr ymladdfa ond hefyd trwy foddi yn y ddaear gorslyd wrth iddynt ffoi o'r maes. Dihangodd Béla i Awstria i dderbyn lloches y Dug Ffredrig II am gyfnod, cyn iddo symud i Slafonia, Teyrnas Croatia, a oedd mewn undeb personol â Theyrnas Hwngari.[3]

Dinistr golygu

Wedi i luoedd Orda a Baidar gyrraedd o'r gogledd, ac ailymuno â Batu ger Esztergom ym Mai 1241, pum byddin oedd gan y Mongolwyr yn Hwngari. Yn sgil y fuddugoliaeth lwyr ym Móhi, aeth y goresgynwyr yn wyllt ar draws y deyrnas, a llosgwyd Pest yn ulw. Dim ond ychydig o gadarnleoedd ac ambell anheddiad corslyd a choediog na chafodd eu hanrheithio gan y Mongolwyr. Bu farw bron hanner o holl boblogaeth Hwngari.

Adladd golygu

Wedi i'r Mongolwyr encilio ym 1242, dychwelodd y Brenin Béla IV i'w deyrnas ac ailsefydlodd ei lys brenhinol ar ochr draw Afon Donaw ym Mryniau Buda.

Cyfeiriadau golygu

  1. Peter Jackson, The Mongols and the West 1221–1410 (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2018), t. 69.
  2. Jackson, The Mongols and the West 1221–1410 (2018), t. 70.
  3. 3.0 3.1 Jackson, The Mongols and the West 1221–1410 (2018), t. 71.