Gorsaf Reilffordd Llangower

Gorsaf reilffordd cledrau cul ar Reilfford Llyn Tegid yw Gorsaf Reilffordd Llangower, ac yn fynedfa i lan Llyn Tegid. Mae maes parcio a thoiledi'r Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfagos.

Gorsaf Reilffordd Llangower
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1929 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8752°N 3.6322°W Edit this on Wikidata
Map
Gorsaf Reilffordd Llangower

Roedd yn orsaf trên yma a goroesodd at ddiwedd y gwasanaeth rhwng Rhiwabon ac Abermaw ar 15 Ionawr 1965. Agorwyd gorsaf newydd ar 15 Medi 1972, pan gyrhaeddodd y lein newydd o Lanuwchllyn. Roedd Llangower yn nherminws gogleddol y lein hyd at Sulgwyn 1975, pan estynnwyd y rheilffordd i Pan y yr Hen Felin.

Ehangwyd Llangower ym 1979 i ganiatáu i'r trenau pasio eu gilydd, ac adeiladwyd platfform newydd – o'r enw 'Llangower East' - yn defnyddio darnau platfform o Orsaf Reilffordd Penmaenpool ar y rheilffordd rhwng Dolgellau a Morfa Mawddach. Daeth yr orsaf gynt yn 'Llangower West'.

Yn 2000/2001, gorlifodd y llyn, yn achosi difrod i Langower East. Penderfynwyd felly i ailadeiladu Llangower West, ac yn cael gwared o Langower East, sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd o'r blaen.

Rhwng yr hydref 2001 a gwanwyn 2002, adeiladwyd platfform newydd i gymryd lle y ddwy orsaf.

Rhag-orsaf Heritage Railways  Reilffyrdd Cledrau Cul Yr Orsaf Ddilynol
Arhosfan Faner Glanllyn   Rheilffordd Llyn Tegid   Arhosfan Bryn Hynod

Dolenni allanol golygu