Gouel Breizh

Gŵyl genedlaethol Llydaw wedi ei hysbrydoli gan wyliau Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl San Badrig

Mae Gouel Breizh (er bod trafodaeth ai Gouel Vreizh, gyda'r treiglad sy'n gywirach [1]) gelwir hefyd yn Gouel Erwan (Ffrangeg: Fête de la Bretagne, Fest Sain-Yves; Cymraeg Gŵyl Llydaw; Gŵyl Erwan) yn gyfnod o ddathliadau sy'n dod â digwyddiadau sy'n tynnu sylw at ddiwylliant Llydaw at ei gilydd. Mae wedi cael ei reoli gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw ers 2009. Fe'i ganed yn Naoned ym 1997 o dan yr enw Fête de la Saint-Yves (Gouel Sant Erwan) a sbardunwyd gan gymdeithas Asiantaeth Ddiwylliannol Lydaweg Loire-Atlantique[2] o ble mae wedi lledaenu yn Llydaw a ledled y byd.

Gouel Breizh
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.fetedelabretagne.bzh Edit this on Wikidata

Mae'r Fête de la Bretagne yn digwydd yn flynyddol oddeutu 19 Mai (diwrnod Nawddsant Erwan Sant, Saint-Yves ), o'r penwythnos cyn y dyddiad hwn tan yr un canlynol. Yn ôl y trefnwyr, mae 400,000 o wylwyr dros 8 diwrnod mewn 150 o ddigwyddiadau yn cael eu cyfrif ar gyfer rhifyn 2015.[3]

Ni ddylid drysu â Gouel Broadel ar Brezhoneg sy'n ŵyl annibynnol ar wahân iddo ac sy'n gyfan gwbl drwy gyfrwng yr iaith Lydaweg.

Hanes Gŵyl Llydaw golygu

 
Gouel Erwan/Gouel Breizh 2008 yn Naoned

Tarddiad crefyddol golygu

Dethlir Gouel Sant Erwan bob blwyddyn ar 19 Mai er anrhydedd i Erwan Sant (Gŵyl Ifan yn Gymraeg), nawddsant cyfreithwyr a Llydawyr. Fe'i dethlir yn Llydaw, yn enwedig yn ardal Bro Dreger.

Adfywiad ac ailddiffiniad gyfoes sifig golygu

Gan ddilyn esiampl cenhedloedd Celtaidd eraill, megis Iwerddon (a'i dathliadau Sant Padrig ar 17 Mawrth) neu Gymru (Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth), mae mudiadau cenedlaethol a diwyllianol Llydewig wedi ceisio hyrwyddo dathliad a fyddai’n benodol i Lydaw ers tro.

Ar 13 Mawrth 1932, pleidleisiodd Gorsedd Llydaw a Ffederasiwn y Cylchoedd Celtaidd, a gyfarfu mewn cyngres gyffredin yn Nanoed, o blaid trefnu "gwyliau cenedlaethol Llydaw" ar 19 Mai, sef dydd gŵyl Sant Erwan, a ddyrchafwyd gan yr Eglwys Gatholig yn un o nawddseintiau Llydaw.

Dathlwyd yr ŵyl gan lawer o gymdeithasau diwylliannol Llydewig cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond heb gydgysylltu. Felly, am flynyddoedd lawer, yng nghanol yr 20g, cyfarfu cymdeithasau Llydaweg yn rhanbarth Paris yn yr Arènes de Lutèce ar gyfer gŵyl Lydaweg.

Roedd yn well gan rai sefydliadau gwleidyddol, cenedlaetholgar yn gyffredinol, ddathlu'r Fête de la Bretagne ar 22 Tachwedd, pen-blwydd Brwydr Ballon, neu ar 17 Mehefin, dyddiad coroni Nevenoe, Brenin Llydaw oll.

Adfywiad golygu

 
Gouel Breizh 2012 yn Fort du Dellec ger Plouzane yn Penn-ar-Bed

Ym 1997 ganwyd y syniad o adfywiad o'r Fête de la Bretagne o gyfarfod, ar Ddydd San Padrig, yn nhafarn "Le Graslin" yn Naoned rhwng Yves Averty, cerddor o Naoned, Gilles Atrux, perchennog y bar, a Claudie Poirier, pennaeth yr Asiantaeth Ddiwylliannol Llydaweg. Ar ôl ymgynghori â gwasanaethau diwylliannol Dinas Naoned, dim ond un dyddiad oedd ar gael ar gyfer cynnal gŵyl, sef, Dydd Llun y Sulgwyn, oedd yn digwydd cwympo ar 19 Mai. Felly ganwyd y Fest Yves cyntaf, drama ar eiriau a adeiladwyd o amgylch un o ffurfiau'r term Fête yn Llydaweg fest ac Yves, gan gyfeirio at gymeriad Yves Hélory de Kermartin canonized ar 19 Mai 1347.[4] Nod yr ŵyl seciwlar hon yw hyrwyddo diwylliannau traddodiadol Llydaw i gynulleidfa fawr iawn trwy hyrwyddo perfformiadau stryd agored i bawb.

Ers 1998, mae Asiantaeth Ddiwylliannol Llydaw wedi trefnu a chydlynu wythnos o ddathliadau dan yr enw Fest Yves yn Nantes ac mewn 5 tref Lydaweg arall.

Ym 1999, creodd Asiantaeth Ddiwylliannol Lydaweg (ACB44) y gymdeithas Fest Yves/Gouel Erwan[5] gyda chytundebau gwledydd eraill, a sicrhaodd gydgysylltu'r digwyddiad trwy gyfathrebu cyffredin.

Yr Ŵyl Gyfoes golygu

 
Gouel Breizh 2015 yn rhan o Gouel Bro Leon yn Plouvorn (29) gydag ensemble Bleuniadur
 
Erwan Sant, rhan o ysbrydoliaeth creu gŵyl nawddsant genedlaethol Llydaw tebyg i yn Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru

Ers 2001 mae'r gymdeithas wedi elwa o gefnogaeth sefydliadol rhanbarth Llydaw ond hefyd gan gyngor adrannol Loire-Atlantique a rhanbarth Pays de la Loire. Bydd llawer o bartneriaid preifat yn ymuno ag ef.[6] Daw trefnwyr newydd bob blwyddyn i chwyddo'r rhengoedd, gan gynnwys mewn mannau eraill yn Ffrainc: Paris, Le Havre, Toulouse, ac yn rhyngwladol: Fietnam, Tsieina, Quebec, Iwerddon, a'r UDA. Bydd y rhyngwladoli hwn yn hybu'r defnydd o'r term "Saint-Yves" a fydd o hyn ymlaen yn dynodi'r blaid o 2007.

Sefydliadol golygu

Yn dilyn llwyddiant gŵyl fawr Touche Breixh i hyrwyddo Llydaw ym Mharis ym mis Medi 2007, dechreuodd Gyngor Rhanbarthol Llydaw gymryd diddordeb yn nhrefniadaeth Gouel Breizh.[7] Mater wedyn yw trefnu digwyddiad sy’n cyfrannu at amlygu creadigrwydd Llydaw a’r gwerthoedd rhannu y mae’r Llydawyr yn cydnabod eu hunain ynddynt. Ar 20 Rhagfyr 2007, yn ystod darllediad ar sianel France 3, cyhoeddwyd cynllun y Rhanbarth i gefnogi Saint-Yves.[8]

Cynhelir yr argraffiad cyntaf ym mis Mai 2009 trwy gymryd yr enw “Saint-Yves” sy'n gysylltiedig â'i gyfieithu i'r Llydaweg Gouel Erwan.[9] Mae rhai digwyddiadau a ystyrir yn grefyddol yn unig, megis pardwn Saint-Yves yn Tréguier, wedi'u heithrio o'r rhaglen. Yn ogystal, mae cysylltiad "meddwl rhydd Morbihan" yn bygwth, yn enw seciwlariaeth, y rhanbarth gyda threial os na roddir y gorau i'r enw "Saint-Yves" o blaid yr enw "Fête de la Bretagne" [10] ·[11] ·[12] : beirniadwyd y penderfyniad olaf hon, yn arbennig gan bapur gorllewin Llydaw, Le Télégramme, a soniodd bryd hynny am “rhagfrith milwriaethus y rhai sy'n ymddiddori mewn seciwlariaeth” (tartufferies militantes des dévots du laïcisme).

Tyfodd y digwyddiad yn y blynyddoedd dilynol o dan yr enw “Fête de la Bretagne / Gouel Breizh”. Cynyddodd nifer y digwyddiadau o 200 yn 2009 i 300 yn 2010 , cyngor rhanbarthol Llydaw yn darparu cyllid o 600,000 ewro i sicrhau gwireddu'r digwyddiad. Trefnir y rhain yn Llydaw fel yng ngweddill Ffrainc, yn ogystal â thramor.[13]

Ers 2015, mae La Fête de la Bretagne wedi dod â digwyddiadau ynghyd dan arweiniad trefnwyr sy’n bodloni meini prawf wedi’u diffinio’n dda: dathliad creadigol o Lydaw, cronni actorion lleol, prisiau isel, ysbryd yr ŵyl.

Gweler hefyd golygu

Gŵyliau iaith Celtaidd eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cela a été parfois écrit « Gouel Vreizh », jugé parfois plus correct d'un point de vue grammatical.
  2. Troadec, Michel (2000-04-28). "Français: La Fest-Yves une idée qui prend, Ouest France, 28 Ebrill 2000". Cyrchwyd 2016-03-11.
  3. i'r gwefan swyddogol www.fetedelabretagne.bzh
  4. Télégramme, Le (2002-05-20). "Français : Claudie Poirier : "La Fest'Yves fédère", Le Télégramme, 20 Mai 2002". Cyrchwyd 2016-03-11.
  5. administrative, Direction de l'information légale et (1999-05-22). "Français : Déclaration de l'association FestYves / Gouel Erwan au Journal Officiel du 22 mai 1999". Cyrchwyd 2016-03-11.
  6. "Français: Affiche Fest Yves / Gouel Erwan 2004". 2004-01-01. Cyrchwyd 2016-03-11. |first= missing |last= (help)
  7. « Paris. Retour sur la Breizh Touch », Le Télégramme, 30 Rhagfyr 2008, cyrchwyd o www.letelegramme.com ar 19 Ebrill 2012
  8. BZH Network et sa composante internationale, BZH Network, cyrchwyd drwy bzhnetwork.wordpress.com ar 19 Ebrill 2012
  9. Saint-Yves - Gouel Erwan Archifwyd 2013-10-13 yn y Peiriant Wayback., Bretagne.com, cyrchwyd o www.bretagne.com ar 19 Ebrill 2012
  10. « Grains de sel. Saint-Yves, le retour ! », Le Télégramme, 25 Ebrill 2010, cyrchwyd o www.letelegramme.com ar 10 Ebrill 2012
  11. « Entrevue entre Jean-Yves Le Drian, Président du Conseil Régional de Bretagne, les représentants des DDEN et de la Libre Pensée, au sujet du financement de la Saint-Yves » Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback., Libre pensée du Morbihan, 5 juillet 2010, cyrchwyd o www.lp56.fr ar 19 Ebrill 2012
  12. « Statues bouddhiques en Afghanistan, Saint Yves en Bretagne », Agence Bretagne Presse, 22 Ebrill 2010, cyrchwyd o www.agencebretagnepresse.com ar 19 Ebrill 2012
  13. « Saint-Yves. 300 manifestations pour la fête de la Bretagne », Le Télégramme, 6 Mai 2010, cyrchwyd o www.letelegramme.com 19 Ebrill 2012

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.