Oireachtas na Gaeilge

gwyl gelfyddydol, diwylliannol a cherddorol iaith Wyddeleg sy'n debyg i'r Eisteddfod Genedlaethol. Nid yw ddrysu gydag Oireachtas y Ddeddfwrfa

Mae Oireachtas na Gaeilge (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɛɾʲəxt̪ˠəsˠ n̪ˠə ˈɡeːlʲɟə]), “Y Cynulliad Wyddeleg”) yn ŵyl gelfyddydol flynyddol o ddiwylliant Gwyddelig, sydd wedi rhedeg ers y 1890au. Wedi’i hysbrydoli gan yr eisteddfodau Cymraeg,[1] a gŵyl y Mòd Gaeleg yn yr Alban mae’r ŵyl wedi cynnwys gwahanol ddigwyddiadau yn ymwneud â’r iaith a diwylliant Gwyddeleg dros y blynyddoedd. Heddiw mae trefniadaeth yr ŵyl yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ond yr amlycaf yw Oireachtas na Samhna ("cynulliad Tachwedd") a gynhelir ar benwythnos olaf Hydref neu'r cyntaf o Dachwedd, pan fydd mwy na 100,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad saith diwrnod.

Oireachtas na Gaeilge
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1897 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.antoireachtas.ie Edit this on Wikidata
Portread o Dubhghlas de hÍde un o brif ladmeryddion sefydlu'r Oireachta
Bu i'r Oireachtas chwarae rhan bwysig yn adfywiad a phoblogi dawnio traddodiadol Iwerddon
Darach Ó Scolaí yn 'Oireachtas na Gaeilge 2015', gyda'r lyfr 'Oileán an Órchiste' ei gyfieithiad ac addasiad o lyfr enwog 'Treasure Island' gan Robert Louis Stevenson
Noder: Peidied drysu gyda'r Oireachtas Éireann caiff ei rhedeg o swyddfa Arlywydd Iwerddon ac mae'n cynnwys dau dŷ neu siambr a elwir weithiau yn "Tai'r Oireachtas", sef Dáil Éireann (y siambr blaen) a Seanad Éireann (yr ail siamber). Mae'n cynnwys, hefyd, Arlywydd Iwerddon.

Hanes golygu

Trefnwyd gŵyl Oireachtas na Gaeilge gyntaf ar 17 Mai 1897 gan Conradh na Gaeilge,[2] a’i rhagwelodd fel rhan o adfywiad celfyddydau a diwylliant traddodiadol Gwyddelig,[3] yn Ystafell Gron Rotunda Dulyn, un o neuaddau mwyaf y ddinas ar y pryd. Dim ond gŵyl hanner diwrnod oedd hi, ond roedd y presenoldeb yn dal i ragori ar fil o bobl, lefel annisgwyl o ddiddordeb. Mae’n syndod bod dros 1,000 o bobl wedi mynychu’r ŵyl hanner diwrnod honno. Cynhaliwyd naw cystadleuaeth mewn barddoniaeth, rhyddiaith, canu, adrodd straeon ac odli.[4] Ysgrifennodd a chyfansoddodd Annie W. Patterson y slogan 'Go marídh ar nGaedhlig slan' ("Hir oes i'r Gwyddelod") ar gyfer yr achlysur ac ychwanegodd Dermot Foley eiriau. Cyfansoddodd Arlywydd cyntaf Conradh na Gaeilge (ac, maes o law, Arlywydd Iwerddon), Dubhghlas de hÍde, gerdd hefyd.[5]

Diwrywiad ac Esblygiad golygu

Dirywiodd yr Oireachtas yn y 1920au cynnar. Ar ôl Oireachtas 1923 ni chafwyd un arall tan 1939 pan gafodd ei ailddechrau yn Nulyn. Arhosodd yn y brifddinas yn ystod y 1940au, 1950au a'r 1960au.

Yn wahanol i ŵyl heddiw, ychydig o bwyslais oedd ar y celfyddydau perfformio. Roedd y cystadlaethau'n cynnwys dwy ar gyfer barddoniaeth, pump ar gyfer traethodau rhyddiaith, un ar gyfer casgliadau barddoniaeth; cystadleuaeth ar gyfer caneuon neu straeon heb eu cyhoeddi yn y Wyddeleg; cystadleuaeth cyfansoddi caneuon newydd a chystadleuaeth llefaru.

Tra bod rheolwyr yr ŵyl wedi tynnu oddi ar lwyddiannau gan gynnwys llwyfannu’r opera Wyddeleg gyntaf, lleihaodd poblogrwydd yr Oireachtas yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, a chafodd yr ŵyl ei chanslo am nifer o flynyddoedd yn y 1920au a’r 1930au. Mewn ymateb, ceisiodd y trefnwyr, dan Gyfarwyddwr Liam Ó Maolaodha o'r 1990au ymlaen, farchnata'r ŵyl i siaradwyr Gwyddeleg iau trwy wibdeithiau, disgos, a digwyddiadau eraill oedd yn canolbwyntio ar ieuenctid.

Yr Oireachtas gyfoes golygu

Rhoddwyd pwysau ar Conradh na Gaeilge i'w symud allan o Ddulyn a chynhaliwyd Oireachtas na n'Gael yn Ros Muc yn 1970, yn Tír An Fhia yn 1971, yng Nghorca Dhuibhne yn 1972 ac yn Kilchiarán yn 1973. Bu'r ymgyrch a chynhaliwyd y Oireachtas na Gaeilge 1974 yn Cois Fharraige (Conamara). O hynny ymlaen mae'r Oireachtas yn symud safleoedd o flwyddyn i flwyddyn fel mae'r Eisteddfod Genedlaethol.

Cynhaliwyd yr ŵyl yn wreiddiol yn Nulyn, ond ers y 1970au, mae wedi cael ei chynnal mewn gwahanol ddinasoedd a threfi o amgylch Iwerddon. Daw’r ŵyl i ben gyda phedair prif gystadleuaeth dros y penwythnos: Comórtas na mBan, cystadleuaeth canu ar y sean-nôs i ferched, Comórtas na bhFear, i ddynion, Corn Uí Riada, categorïau o bob oed a rhyw, a’r Comórtas Damhsa ar y Sean Nós ("Steip"), cystadleuaeth ddawnsio arddull rydd sy'n seiliedig yn bennaf ar arddull step unigol Conamara sydd bellach yn boblogaidd ledled y wlad, ond sydd hefyd yn cynnwys dawnsio mewn arddulliau rhanbarthol eraill. Ymhlith cyn-enillwyr Corn Uí Riada mae Áine Uí Cheallaigh, Lillis Ó Laoire, Máirtín Tom Sheánín Mac Donnchadha, Mícheál Ó Confhaola ac enillydd 2008 Ciarán Ó Con Cheanainn o Spiddal, Swydd Galway.

Sylw yn y cyfryngau golygu

Mae RTÉ Raidió na Gaeltachta wedi bod yn darlledu digwyddiadau mawr yr Oireachtas yn fyw ers 1973 ac mae galw mawr am y darllediadau hyn gan gynulleidfaoedd rhyngrwyd ledled y byd, yn enwedig Corn Uí Riada a’r cystadlaethau llwyfan ar y sean-nós. Mae Steip, cystadleuaeth ddawnsio ar y Sean nós, ar sianel deledu iaith Wyddeleg, TG4 wedi denu ffigurau cynulleidfa blynyddol uchaf y sianel yn gyson. Mae ei llwyddiant i'w briodoli i waith caled gweinyddwr yr Ŵyl, Máirín Nic Dhonnchadha a adfywiodd y gystadleuaeth i bob pwrpas o 2000 ymlaen. Yn 2008, am y tro cyntaf, darlledodd yr orsaf rannau byw o gystadleuaeth Corn Uí Riada.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. De Barra, Caoimhín (May 2014). "A gallant little ‘tírín’: the Welsh influence on Irish cultural nationalism". Irish Historical Studies 39 (153): 58–75. JSTOR 43654557. https://www.jstor.org/stable/43654557.
  2. "-Oireachtas na Gaeilge 2008". BBC Gogledd Iwerddon. Cyrchwyd 31 Mawrth 2009.
  3. Ó hAllmhuráin, Gearóid (2017). A Short History of Irish Traditional Music. Dublin: The O'Brien Press. t. 55. ISBN 9781847179401.
  4. "Oireachtas na Gaeilge, Parnell Square Cultural Quarter". PARNELL SQUARE CULTURAL QUARTER (yn Saesneg). 27 Tachwedd 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-08. Cyrchwyd 26 Ebrill 2021.
  5. "Is é seo an dán a chum céad Uachtarán Chonradh na Gaeilge, @ancraoibhin, don ócáid" (yn Gwyddeleg). Conradh na Gaeilge. 2020. Cyrchwyd 2021-04-26.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.