Gwilym Bowen Rhys

canwr, cyfansoddwr a bardd o bentref Fethel ger Caernarfon

Mae Gwilym Bowen Rhys (ganwyd 23 Hydref 1992) yn ganwr a chyfansoddwr o bentref Bethel ger Caernarfon.

Gwilym Bowen Rhys
Ganwyd23 Hydref 1992 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, bardd Edit this on Wikidata
PerthnasauZonia Bowen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gwilymbowenrhys.com/ Edit this on Wikidata

Cafodd fagwraeth Gymraeg a Chymreig, yn cystadlu ar lwyfan eisteddfodau lleol. Yn 14 oed yn 2007, ymunodd gyda’i ddau gefnder a chyfaill i ffurfio’r band roc Y Bandana. Yn 2012 sefydlodd grŵp gwerin amgen, Plu gyda'i ddwy chwaer; Elan a Marged.

Gyrfa golygu

Cerddoriaeth golygu

 
Gwilym Bowen Rhys, pibydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2014

Yn ogystal â cherddoriaeth, mae ganddo hefyd ddiddordeb angerddol mewn hanes a diwylliannau cynhenid, ac felly yn ddigon naturiol, fe dyfodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth traddodiadol ein gwlad. Cychwynodd astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cael y fraint o deithio ledled y byd yn perfformio gyda phrosiectau NEXO yn yr Ariannin a TOSTA yng Nghymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Fryslân, Galisia a Gwlad y Basg.[1]

Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn canu ac ymchwilio mewn i ganeuon ac alawon traddodiadol o Gymru a cheisio codi ymwybyddiaeth o'n cerddoriaeth a’n llenyddiaeth gynhenid.

Cyrhaeddodd cystadleuaeth Cân i Gymru ddwy waith gan gyfansoddi gyda ei fam Siân.[2]

‘'O Groth y Ddaear’' yw ei albwm unigol gyntaf a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.

Enillodd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019. Derbyniodd enwebiad ar gyfer gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.[3]

Mae diddordeb Gwilym yn cwmpasu cerddoriaeth pop Cymraeg a hefyd cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae'n canu'r Pibgod a bu'n bibydd yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2014.

Clocsiau golygu

Yn Ebrill 2014 cychwynnodd ddysgu y grefft o wneud clocsiau. Roedd y crefftwr Trefor Owen o Griccieth wedi bwriadu ymddeol o'i waith yn gwneud clocsiau ond doedd neb i gymeryd yr awenau. Cynigiodd y Tywysog Charles wneud cyfraniad er mwyn hyfforddi crefftiwr newydd a bu Gwilym yn cael hyfforddiant yn y grefft.[4] Yn 2016 aeth i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn yr adran Prentis Sylfaen y Flwyddyn.[5]

Cydweithio Celtaidd golygu

Bu Gwilym yn perfforio yng Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw yn haf 2022.[6] Fel rhan o'r cyfnod bu iddo recordio ffilmig gan sianel gerddoriaeth ar-lein S4C, Lŵp, gyda'r gantores Llydwig, Azenor Kallag, yn cymharu geiriau Cymraeg a Llydaweg. Bu i'r ffilm fer dderbyn ymateb dda a llawer yn ei rannu.[7]

Teulu golygu

Rhieni Gwilym yw Rhys Harris, cyn-aelod o'r Trwynau Coch a Siân Harris. Mae'n ŵyr i'r diweddar brifardd ac archdderwydd Geraint Bowen. Ei famgu ar ochr ei fam yw Zonia Bowen.

Disgyddiaeth golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad Rhyddhau
O Groth y Ddaear Albwm, CD Fflach: tradd CD358H 2016
Detholiad o Hen Faledi, I Albwm, CD Erwydd ER001 2018
Arenig Albwm,CD Erwydd ER003 2019

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwilym Bowen Rhys - Gwestai Penblwydd Rhaglen Dewi Llwyd. BBC Radio Cymru (12 Hydref 2014).
  2. GWILYM BOWEN RHYS A SIÂN HARRIS , S4C, 2014.
  3. "BBC Radio 2 - BBC Radio 2 Folk Awards - BBC Radio 2 Folk Awards Nominees 2019". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-19.
  4. 'Sicrhau dyfodol' un o wneuthurwyr clocsiau olaf Cymru , BBC Cymru Fyw, 16 Mehefin 2014. Cyrchwyd ar 9 Mai 2019.
  5.  Gwobrau Rownd Derfynol 2016. Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (2016).
  6. {{cite web |url=https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/cymru-yn-dychwelyd-i-ddathliad-mwyaf-y-byd-o-ddiwylliannau-celtaidd |title=Cymru yn dychwelyd i ddathliad mwyaf y byd o ddiwylliannau Celtaidd |publisher=[[Cyngor Celfyddydau Cymru |access-date=10 Awst 2022}}
  7. "Dysgu 'chydig o Lydaweg yn @FESTIVALLORIENT, gyda @GwilymBowenRhys & Azenor 🌍 #Celtic #Welsh #Breton!". TikTok Lŵp S4C. Cyrchwyd 15 Awst 2022.