Gwrthryfel Cymreig 1294–95

Gwrthryfel yn erbyn Teyrnas Lloegr gan ddisgynyddion deuluoedd brenhinol Cymru oedd Gwrthryfel Cymreig 1294–95. Yr arweinwyr oedd Madog ap Llywelyn yn y gogledd (a hawliodd y teitl Tywysog Cymru), Maelgwn ap Rhys Fychan yn y de-orllewin, a Morgan ap Maredudd yn y de-ddwyrain. Achosion y gwrthryfel oedd trethi trymion a gormes swyddogion y Brenin Edward I ar y Cymry. Arweiniodd Edward ei hun ei luoedd i drechu'r Cymry, a daeth y gwrthryfel i ben yn sgil buddugoliaeth y Saeson ym Mrwydr Maes Moydog ar 5 Mawrth 1295.[1]

Gwrthryfel Cymreig 1294–95
Enghraifft o'r canlynolgwrthryfel Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 411 GWRTHRYFEL CYMREIG, Y (1294-5).
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.