Sant o Gymro oedd Gwynhoedl (hefyd Gwynodl, Gwynhael a Vendeseti yn Lladin: fl. 5g - 6g).

Gwynhoedl
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
BlodeuoddEdit this on Wikidata
TadSeithenyn Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad golygu

Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Seithenyn, ceidwad llifddorau Gwyddno Garanhir, brenin Cantre'r Gwaelod. Dywedir hefyd ei fod yn frawd i Sant Tudno, nawddsant Llandudno.[1]

Treuliodd beth amser ym mynachlog Bangor Is-Coed. Oddi yno aeth i benrhyn Llŷn a sefydlodd eglwys Llangwnadl (neu Llangwynoedl). Fe'i coffheir ar garreg arysgifiedig ym mhentref Llannor, hefyd yn Llŷn, lle ceir yr enw VENDESETI. Yn ôl traddodiad defnyddid y gloch efydd a geid yn eglwys Llangwnadl gan y sant i erlid ysbrydion drwg.[1]

Ceid yn ogystal Ffynnon Wynhael yn Wolvesnewton yn Sir Fynwy, yn ôl ffynonellau o'r 15g a'r 16g.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publishing, 2000).