Ffeminist o'r Alban oedd Helen Crawfurd (9 Tachwedd 1877 - 18 Ebrill 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, gwleidydd Comiwnyddol a swffragét.

Helen Crawfurd
Ganwyd9 Tachwedd 1877 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1954 Edit this on Wikidata
Dunoon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethgwleidydd, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, Y Blaid Lafur Annibynnol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Glasgow ar 9 Tachwedd 1877 a bu farw yn Dunoon yn Argyll a Bute.[1][2][3]

Magwraeth golygu

Ganwyd Helen Jack, yn 175 Cumberland Street yn ardal y Gorbals yn Glasgow; rhieni Helen oedd Helen L. Kyle a William Jack. Symudodd ei theulu i Ipswich pan oedd yn ifanc, ac yn ddiweddarach aeth i ysgol yn Llundain ac Ipswich cyn symud yn ôl i Glasgow fel arddegwr. Roedd ei thad, a oedd yn brif bobydd, yn Gatholig ond newidiodd yn aelod o Eglwys yr Alban. Roedd hefyd yn undebwr llafur ceidwadol.[4] [5]

Pan oedd yn ifanc, roedd yn eitha crefyddol ei natur, ond newidiwyd hynny. Priododd â gŵr gweddw Alexander Montgomerie Crawfurd (29 Awst 1828 - 31 Mai 1914), Gweinidog Eglwys yr Alban, yn 9 Park Avenue yn Stirling ar 19 Medi 1898, ond daeth yn gynyddol radical. Bu farw Alexander yn 85 oed yn 17 Stryd Sutherland yn Partick, Glasgow.[6][7][8][9]

Yn 1945, ailbriododd Helen, â George Anderson, gŵr gweddw, o Anderson Brothers Engineers, Coatbridge, aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr. Bu George Anderson farw ar 2 Chwefror 1952 a bu farw Helen yn Mahson Cottage, Kilbride Avenue, Dunoon, Argyll, yn 76 oed.[10][11][12]

Ymgyrchydd dros hawliau merched golygu

 
(Ch - Dde) Helen Crawfurd, Janet Barrowman, Margaret McPhun, Mrs A. A. Wilson, Frances McPhun, Nancy A. John a Annie S. Swan.

Daeth Crawfurd yn ymgyrchydd gweithredol gyntaf yn y mudiad i ferched tua 1900, ac yna yn 1910 yn ystod cyfarfod yn Rutherglen pan newidiodd ei chefnogaeth i Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Pankhursts, sef y Women's Social and Political Union (WSPU). Yn 1912, chwalodd ffenestri cartref Jack Pease, y Gweinidog Addysg, a chafodd ddedfryd o garchar am fis. Ym Mawrth 1914, arestiwyd Helen yn Glasgow pan oedd Emmeline Pankhurst yn siarad, derbyniodd fis arall yn y carchar, ac aeth ar streic newyn wyth diwrnod. Ar ôl cael ei harestio ymhellach, gadawodd y WSPU mewn protest gan eu bont yn cefnogi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP).[9][13][13]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .


Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  2. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  4. "SR Birth Search for Helen Jack (Statutory Births 644/12 1466)". Scotland's People.
  5. Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm. https://www.wealothianwomensforum.org.uk/ScottishSuffragists/helencrawfurd.html.
  6. "OR Birth and Baptism Search CRAWFORD, ALEXANDER (O.P.R. Births 612/01 0020 0089 ST QUIVOX)". Scotland's People.
  7. "SR Death Search for Alexander Montgomerie Crawfurd (Statutory Deaths 644/22 0321)". Scotland's People.
  8. "SR Marriage Search for CRAWFORD, ALEXANDER M - JACK, HELEN (Statutory Marriages 490/00 0075)". Scotland's People.
  9. 9.0 9.1 Ed. A. T. Lane, Biographical Dictionary of European Labor Leaders, Cyfr. 1, pp.224-226
  10. "SR Marriage Search Anderson George Crawford Helen COATBRIDGE OR OLD MONKLAND Lanark 652/02 0071". Scotland's People.
  11. "SR Death Search ANDERSON, GEORGE (Statutory Deaths 510/02 0002)". Scotland's People.
  12. "SR Death Search ANDERSON, HELEN (Statutory Deaths 510/01 0067)". Scotland's People.
  13. 13.0 13.1 Leneman, Leah (2000). The Scottish Suffragettes. British Library: NMS Publishing Limited. tt. 58–61. ISBN 1-901663-40-X.