Actor a cherddor Americanaidd yw Henry Jackson Thomas Jr. (ganwyd 9 Medi 1971). Ei ran fawr cyntaf oedd Elliott yn ffilm Steven Spielberg - E.T. the Extra-Terrestrial.

Henry Thomas
GanwydHenry Jackson Thomas Edit this on Wikidata
9 Medi 1971 Edit this on Wikidata
San Antonio, Texas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • East Central High School
  • Blinn College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cerddor, actor teledu, actor ffilm, gitarydd, actor llais Edit this on Wikidata
Adnabyddus amE.T. the Extra-Terrestrial Edit this on Wikidata
PriodMarie Zielcke Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Thomas yn San Antonio, Texas. Mae ei fam, Carolyn L. (née Davies), yn wraig tŷ a roedd ei dad, Henry Jackson Thomas, yn beiriannwr hydrolig.[1] Mynychodd Ysgol Uwchradd East Central a Choleg Blinn.

Mae teulu ei fam yn hannu o ogledd Cymru a teulu ei dad o Sir Gaerfyrddin. Mae'n cefnogi tîm pêl-droed Abertawe ac wedi dysgu ychydig o Gymraeg pan yn ymweld a Chymru.[2]

Gyrfa golygu

Gyrfa actio golygu

Dywedodd Thomas ei fod wedi penderfynu bod yn actor yn wyth oed, ar ôl gwylio rhaglen arbennig am actio ar PBS a sylweddolodd ei fod eisiau dilyn gyrfa yn y maes. Yn dilyn clyweliad agored mewn gwesty yn San Antonio enillodd ran yn ei ffilm gyntaf, Raggedy Man (1981). Yn naw oed, aeth Thomas am glyweliad am y brif rhan yn E.T. the Extra-Terrestrial (1982). Enillodd y rhan drwy roi perfformiad ddagreuol, gan dynnu ar atgof go-iawn o weld ei gi anwes yn cael ei ladd gan gi cymydog. Roedd llwyddiant y ffilm yn fwy na'r disgwyl, a roedd Thomas yn poeni am ymateb eithafol rhai aelodau'r cyhoedd.[3]

Serennodd Thomas ynCloak & Dagger, tra'n mynychu'r ysgol. Dychwelodd i ffilm yn y 1980au hwyr a'r 1990au cynnar gan ddechrau profi ei hun mewn rhannau oedolion, yn fwyaf nodedig fel fersiwn iau o Norman Bates yn Psycho IV: The Beginning, y cymeriad chwaraeodd Anthony Perkins yn wreiddiol.[4] Aeth Thomas i Goleg Blinn (ble astudiodd athroniaeth a hanes) ond gadawodd ar ôl blwyddyn i actio yn llawn amser.

Ei ran oedolyn mwyaf amlwg mor belled oedd fel Samuel Ludlow yn Legends of the Fall (1994). Chwaraeodd Johnny Sirocco yn ffilm hanesyddol Martin Scorsese, Gangs of New York (2002). Chwaraeodd Hank Williams Sr. yn The Last Ride (2011). Yn y gyfres ABC Betrayal, mae'n chwarae T. J. Karsten. Bu hefyd yn chwarae Tom, tad cymeriad Carla Gugino, yn ffilm wreiddiol Netflix Gerald's Game (2017).

Cerddoriaeth golygu

Roedd Thomas yn ysgrifennu caneuon, canu, a chwarae gitâr ar gyfer y band o San Antonio, Texas, The Blue Heelers (a enwyd ar ôl y brîd ci) o ganol i ddiwedd y 1990au. Er na arwyddodd y band i label recordio, cafodd ei albwm hunan-gynhyrchiedig Twister dderbyniad da a cael ei chwarae ar radio drwy'r taleithiau.[angen ffynhonnell] Symudodd i Los Angeles yn 1998, a daeth y band i ben, ond parhaodd Thomas i ysgrifennu a recordio caneuon. Ym 1998, ymddangosodd ei gân "Truckstop Coffi" (a recordiwyd gyda'r Blue Heelers) ar drac sain V2 i'r ffilm Niagara, Niagara, lle ymddangosodd Thomas hefyd.[5]

Yn 2003, Thomas gweithiodd gyda Nikki Sudden ar y gerddoriaeth ar gyfer ffilm Mika Kaurismäki Honey Baby, a oedd yn cynnwys pedwar cân gwreiddiol a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan Thomas fel y ffug gerddor Tom Brackett.[6] Roedd albwm ar y gweill, ond bu farw Sudden o drawiad ar y galon yn 2006.[7]

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm
Blwyddyn Teitl Rhan
1981 Raggedy Man Harry Jr.
1982 E.T. the Extra-Terrestrial Elliott
1984 Misunderstood Andrew
1984 Cloak & Dagger Davey Osborne
1986 Frog Dreaming Cody
1989 Valmont Raphael Danceny
1993 Fire in the Sky Greg Hayes
1994 Curse of the Starving Class Wesley Tate
1994 Legends of the Fall Samuel Ludlow
1997 Bombshell Buck Hogan
1997 Niagara, Niagara Seth
1997 Suicide Kings Avery Chasten
1999 Fever Nick Parker
2000 A Good Baby Raymond Toker
2000 All the Pretty Horses Lacey Rawlins
2001 The Quickie Alex
2002 Dead in the Water Jeff
2002 I'm with Lucy Barry
2002 Gangs of New York Johnny Sirocco
2003 I Capture the Castle Simon Cotton
2003 11:14 Jack
2004 Dead Birds William
2006 The Hard Easy Paul Weston
2007 The Last Sin Eater Man of God
2007 Suffering Man's Charity Eric Rykell
2008 Red Velvet Aaron
2010 Dear John Tim
2013 Big Sur Philip Whalen
2016 Ouija: Origin of Evil Father Tom Hogan
2017 Gerald's Game Tom
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1990 Psycho IV: The Beginning Norman Bates Ifanc
Ffilm deledu
1992 A Taste for Killing Cary Sloan Ffilm deledu
1995 Indictment: The McMartin Trial Ray Buckey Ffilm deledu
1996 Riders of the Purple Sage Bern Venters Ffilm deledu
1998 Moby Dick Ishmael Ffilm deledu
1999 Happy Face Murders Dylan McCarthy Ffilm deledu
2005 Masters of Horror Jamie Pennod: "Chocolate"
2006 Desperation Peter Jackson Ffilm deledu
2007–2008 Without a Trace Franklin Romar 2 bennod
2009 CSI: Crime Scene Investigation Jeremy Kent Pennod: "If I Had a Hammer"
2011 The Mentalist Thomas Lisbon Pennod: "Where in the World is Carmine O'Brien?"
2013–14 Betrayal T.J. Karsten 13 pennod
2015 Sons of Liberty John Adams Cyfres fer
2016 Law & Order: Special Victims Unit Sean Roberts Pennod: "Making a Rapist"
2017 Better Things Robin Cyfres 2
2018 The Haunting of Hill House

Anrhydeddau golygu

Gwobrau ac enwebiadau ar gyfer actio
Blwyddyn Gwobrau
Categori Gwaith Canlyniad
1982 Gwobr Artist Ifanc Yr Actor Gorau Raggedy Man

Enwebwyd
1983 Gwobr Artist Ifanc Yr Actor Gorau E.T. the Extra-Terrestrial Buddugol
Gwobrau Ffilm Yr Academi Brydeinig
Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol i Prif Rhan Ffilm
Enwebwyd
Gwobrau'r Golden Globe Yr Actor Gorau Enwebwyd
Gwobr Saturn
Yr Actor Gorau Enwebwyd
1985 Gwobr Artist Ifanc Yr Actor Gorau Cloak & Dagger

Enwebwyd
1996 Gwobrau'r Golden Globe Actor cefnogol gorau - Cyfres, Cyfres fer neu Ffilm Deledu Indictment: The McMartin Trial

Enwebwyd

Anrhydeddau eraill golygu

  • VH1's "100 Greatest kid Stars"
  • 2005, safle #4, E!'s "50 Cutest Child Stars All Grown-up"

Cyfeiriadau golygu

  1. "Henry Thomas Biography (1971-)". Filmreference.com. 1971-09-08. Cyrchwyd 2016-09-10.
  2. E.T., Elliott a'r tapiau dysgu Cymraeg , BBC Cymru Fyw, 16 Chwefror 2018.
  3. "E.T actor Henry Thomas on how hit film changed his life - Mirror Online". Mirror.co.uk. Cyrchwyd 2016-09-10.
  4. Henry Thomas ar yr Internet Movie Database
  5. Stephen Thomas Erlewine (1998-04-07). "Niagara, Niagara - Original Soundtrack | Songs, Reviews, Credits". AllMusic. Cyrchwyd 2016-09-10.
  6. Leslie Felperin (2004-07-09). "Review: 'Honey Baby'". Variety. Cyrchwyd 2016-12-25.
  7. Cartwright, Garth (2006-04-02). "Obituary: Nikki Sudden". the Guardian. Cyrchwyd 2018-01-17.

Llyfryddiaeth golygu

  • Holmstrom, John. The Moving Picture Boy: An International Encyclopaedia from 1895 to 1995, Norwich, Michael Russell, 1996, p. 387-388.

Dolenni allanol golygu