Huw Chiswell

actor a aned yn 1961

Cerddor, actor, cynhyrchydd a cyfarwyddwr Cymreig ydy Huw Chiswell (ganwyd 11 Mai 1961).[1][2]

Huw Chiswell
GanwydDonald Huw Chiswell Edit this on Wikidata
11 Mai 1961 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yng Nghwm Tawe, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Gyrfa golygu

Cerddoriaeth golygu

Roedd yn aelod o'r bandiau Y Crach a Y Trwynau Coch. Cyfansoddodd y gân elusen i Ethiopia "Dwylo dros y môr" yn 1985.[3] Ym 1984 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân "Y Cwm", a gyfansoddwyd gan Chiswell a'i chanu gan Geraint Griffiths. Ym mis Tachwedd 2005 cyhoeddwyd cryno-ddisg a llyfr caneuon Goreuon Huw Chiswell. Ar 26 Ionawr 2005 cymerodd ran yng nghyngerdd Tsunami Caerdydd. Yn 2006 bu'n feirniad ar raglen gerddoriaeth Wawffactor ar S4C .

Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987. Lluniau gan Medwyn Jones

Actio golygu

Ymddangosiad fel y cymeriad golygus Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza!.

Disgyddiaeth golygu

  • Rhywbeth o'i le 1986
  • Rhywun yn gadael 1989
  • Cameo Man 1993, Sain
  • Dere Nawr 2003, Sain
  • Goreuon Huw Chiswell Tachwedd 2005, Sain

Clipiau cerddoriaeth golygu

Y Cwm
Rhywbeth O'i Le
Y Gwir

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  FindTheCompany. findthecompany.co.uk. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  2. Noson Lawen - Huw Chiswell, S4C; Adalwyd 2015-12-29
  3. Bywgraffiad Huw Chiswell; BBC Cymru; Adalwyd 2015-12-29
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.