Iawn.Cymru

prosiect cyhoeddi nid er elw i helpu dysgu Cymraeg

Mae iawn.cymru yn brosiect cyhoeddi nid er elw wedi'i sefydlu yn bennaf yn ardal Bangor yn 2020.

Iawn.Cymru
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Rhan oy fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2020 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.iawn.cymru/ Edit this on Wikidata

Mae cefnogwyr gwirfoddol y prosiect yn cynnwys tiwtoriaid iaith Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, dylunydd graffig, pobl sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl (yn cynnwys cyn enillydd y wobr Dysgwr y flwyddyn) a dysgwyr Cymraeg presennol.

Bwriad y fenter yw cyhoeddi llyfrau a deunydd creadigol amrywiol i ddysgwyr Cymraeg. Y llyfr cyntaf yn y gyfres bydd cyfieithiad o stori fer Metamorffosis gan Franz Kafka gyda geirfa a phatrymau berfau wedi'u symleiddio.


Dolenni allanol golygu

Gwefan: https://www.iawn.cymru/