John Bodvan Anwyl

gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur

Geiriadurwr, gweinidog ac awdur o Gymru oedd John Bodvan Anwyl (enw barddol: Bodfan); 27 Mehefin 1875 - 23 Gorffennaf 1949).

John Bodvan Anwyl
Ganwyd27 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Caer Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1949 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Llangwnnadl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, geiriadurwr, awdur Edit this on Wikidata
TadJohn Anwyl Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yng Nghaer yn 1875. Yn 1914 fe'i comisiynwyd i olygu geiriaduron Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg cwmni Spurrell (gw. Geiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell.)

Fe'i penodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1920, ac yna'n Oruchwyliwr y Geiriadur (Dictionary Superintendant), prosiect dan ofal Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, yn 1921, yn y Llyfrgell. Trefnodd gynllun darllen drwy recriwtio rhyw ddau gant o wirfoddolwyr i ddarllen testunau a chodi enghreifftiau o eiriau yn eu cyd-destun ar slipiau o bapur. Dyma osod sylfeini Geiriadur Prifysgol Cymru; dull sy'n para hyd heddiw.

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru archif o'i bapurau.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Anwyl, John Bodvan (1914–1934). "Ffeil G45-56. - Anwyl, J. Bodvan, Aberystwyth". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.CS1 maint: date format (link)

Cyhoeddiadau golygu

  • Englynion (Wrecsam, 1933)
  • Fy Hanes i Fy Hunan / John Cymro Jones (1933)