John Gwilym Jones (bardd)

bardd a gweinidog o Gymro; un o deulu Parc Nest

Bardd a gweinidog o Gymro yw John Gwilym Jones (ganed 16 Rhagfyr 1936).[1] Ganed ef yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn frawd i T. James Jones.

John Gwilym Jones
Ganwyd16 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata
Castellnewydd Emlyn Edit this on Wikidata
Man preswylY Tymbl, Bangor, Peniel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl, Archdderwydd Edit this on Wikidata
PlantTudur Dylan Jones Edit this on Wikidata
Am y dramodydd, gweler John Gwilym Jones (dramodydd)

Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, yna am flwyddyn bu'n darlithio mewn Cymraeg Canol ym Mhrifysgol Dulyn. Aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Abertawe. Cafodd ei alwad cyntaf i'r weinidogaeth ym Methania, y Tymbl, cyn symud ym 1967 i Eglwys Annibynnol, Pendref, Bangor lle bu'n gwasanaethu am ddeugain mlynedd. Cafodd gyfle hefyd i ddarlithio mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Bu yn ei dro yn llywydd Undeb yr Annibynwyr, yn olygydd y cylchgrawn Porfeydd, ac yn aelod o bwyllgor llywio'r llyfr emynau cydenwadol, Caneuon Ffydd.[2]

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am Y Frwydr. Bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996. Yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, roedd yn gyfrifol am gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones, a choroni ei frawd, Aled Gwyn. Wedi ei gyfnod fel Archdderwydd, daeth yn Gofiadur yr Orsedd rhwng 2005 a 2010.

Anrhydeddau golygu

Cafodd ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ar 12 Gorffennaf 2012 a fe anrhydeddwyd yn Gymrawd gan yr Eisteddfod yn Awst 2012.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod ag Avril (bu farw 28 Chwefror 2008) a cawsant dri o blant, Eilir, Tudur Dylan a Nest. Wedi ymddeol, symudodd i Peniel, Sir Gaerfyrddin yn nes at ei fro enedigol.

Gweithiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  CompanyCheck - REV JOHN GWILYM JONES.
  2.  Urddo cyn Archdderwydd. Prifysgol Aberystwyth (12 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2018.