John Jones (Pyll)

argraffydd a dyfeisiwr

Argraffydd, cyhoeddwr a bardd oedd John Jones (tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai 178629 Mawrth 1865)[1][2], a adwaenir gan amlaf fel John Jones, Llanrwst neu wrth ei enw barddol Pyll. Roedd yn ŵyr i'r argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddodd sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed, llyfr byd natur Faunula Grustensis (1830) gan John Williams,[2] ac ef hefyd oedd rhith-adwdur a chyhoeddwr Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo.[3]

John Jones
FfugenwPyll Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Mai 1786 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd7 Mai 1786 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Man preswylLlanrwst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau Edit this on Wikidata
PlantEvan Jones, Owen Evan Jones Edit this on Wikidata
PerthnasauDafydd Jones Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).

Bywgraffiad golygu

Ganed John Jones yn fab i Ismael a Jane Davies (mabwysiadwyd y cyfenw Jones wedi hynny) tua diwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai yn y flwyddyn 1786; ni chofnodir ei eni ond fe'i bedyddiwyd ar y 7fed o Fai, 1786. Roedd yn frawd hŷn i Robert Jones argraffwr ym Mangor. 'Bryn Pyll' oedd enw y tyddyn ger Trefriw lle y'i ganed a chymerodd yr enw barddol Pyll oherwydd hynny.[2]

Pan oedd yn llanc prentisiwyd ef yn ôf mewn gefail leol ond yn 1817 bu farw ei dad, Ismael Jones, cymerodd drosodd ei fusnes argraffu. Aeth ati i ail-drefnu'r busnes. Rhoddodd heibio'r hen argraffwasg, a etifeddasid gan ei dad o Ddafydd Jones, a chynllunio ei wasg ei hun.[4]

Yn 1825 symudodd i Lanrwst gan sefydlu ei wasg yn y dref ac yno y bu hyd ei farw yn 1865, yn 79 oed. Bellach mae argraffwasg John Jones yn grair yn Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Ne Kensington, Llundain.[2]

Bardd golygu

Roedd John Jones neu "Pyll" yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd. Ei gerdd fwyaf poblogaidd oedd 'Myfyrdod ar Lanau Conwy' (sic), a argraffwyd am y tro cyntaf - gan John Jones ei hun neu gan ei dad efallai - yn y gyfrol Blwch Caniadau (Trefriw, 1812) ac a argraffwyd sawl gwaith mewn blodeugerddi poblogaidd ar ôl hynny.[2]

Llyfrau golygu

 
Wynebddalen Faunula Grustensis

Cyhoeddodd John Jones sawl llyfr, pamffled baled ac almanac yn ystod ei yrfa. Dyma ddetholiad:

Llyfryddiaeth golygu

  • Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)

Cyfeiriadau golygu

  1. JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Awst 2021
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
  3. Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo ar Wicidestun
  4. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)