John Knapp-Fisher

arlunydd (1931-2015)

Arlunydd Seisnig yw John Knapp-Fisher (ganed 1931), sydd wedi bod yn byw a gweithio yng Nghymru ers 1965.[1]

John Knapp-Fisher
GanwydAwst 1931, 1931 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.johnknapp-fisher.com Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed yn Llundain, yn fab i Athro Pensaerniaeth yn y Coleg Celf Brenhinol.[2] Addysgwyd yn Ysgol Sant Andrew, Pangbourne a Choleg Eastbourne, Sussex cyn mynd i astudio ddylunio graffeg a teipograffeg yng Ngholeg Celf Maidstone.[1][3] Yn dilyn hyn fe wnaeth Wasnanaeth Cenedlaethol yn Heddlu Milwrol Mowntiedig Brenhinol y fyddin.[3]

Bu'n gweithio yn dylunio arddarngosfeydd yn Llundain am ddwy flynedd cyn cychwyn canolbwyntio ar baentio ac arddangos gwaith ei hun ym 1958.[3] Yn ddiweddarach, daeth yn ddylunydd set ar gyfer Theatr Margate Brenhinol a Theatr Castell Farnham. Yna, bu'n byw ar gwch yn Suffolk tan i'w wraig ddisgyn yn feichiog. Symudodd i Sir Gaerfyrddin ym 1965 ac agorodd ei stiwdio yng Nghroes-goch, Sir Benfro ym 1967.[2] Ym 1992, etholwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  John Knapp-Fisher RCA born. 1931. Harbour Lights Gallery. Adalwyd ar 1 Medi 2011.
  2. 2.0 2.1 (25 Awst 2011) 'Kyffin' Sir Benfro'n dal i baentio. Golwg
  3. 3.0 3.1 3.2  John Knapp-Fisher. Gwefan swyddogol. Adalwyd ar 1 Medi 2011.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.