John Robert Pryse
hanesydd a llenor
Bardd o Ynys Môn oedd John Robert Pryse (10 Mehefin 1840 - 13 Tachwedd 1862), a ysgrifennai dan yr enw barddol "Golyddan".[1]
John Robert Pryse | |
---|---|
Ffugenw | Golyddan |
Ganwyd | 10 Mehefin 1840 Llanrhuddlad |
Bu farw | 13 Tachwedd 1862 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gweithiwr amaethyddol |
Tad | Robert John Pryse |
Roedd yn fab i'r llenor a hanesydd Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) ac yn frawd i'r llenores Catherine Prichard (Buddug). Bu farw'n ifanc yn 22 oed pan oedd yn ymbaratoi at fod yn feddyg. Roedd ei gyfoeswyr yn ei ystyried yn fardd ifanc addawol ac yn gweld ei farwolaeth yn golled fawr i lenyddiaeth yr oes.[2]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein
- ↑ D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 84.