Josef Holbrooke

cyfansoddwr a aned yn 1878

Roedd Josef Charles Holbrooke (5 Gorffennaf, 18785 Awst, 1958), yn gerddor ac yn gyfansoddwr Seisnig.[1][2][3]

Josef Holbrooke
Ganwyd5 Gorffennaf 1878 Edit this on Wikidata
Croydon Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1958 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaetharweinydd, cyfansoddwr, pianydd Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Holbrooke yn Croydon, Surrey yn blentyn i Joseph Holbrook, cerddor mewn theatrau cerdd a Helen ei wraig, perfformiwr caneuon gwerin o'r Alban. Er mwyn osgoi dryswch rhwng ei waith ef fel cerddor a gwaith ei dad, ychwanegodd y Joseph iau e ar ddiwedd sillafiad ei gyfenw a ffeiriodd y ph yn ei enw bedydd am f. Cafodd ei addysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle fu'n astudio cyfansoddi a chanu'r piano.[4]

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r Academi bu gan Holbrooke nifer o swyddi. Bu'n teithio fel pianydd cyngerdd, bu'n cydymaith cerddorol i offeiriad bonheddig, bu'n cyfarwyddo pantomeim a bu am gyfnod yn athro yn y Birmingham and Midland Institute School of Music.[5]

Dechreuodd dod i amlygrwydd fel cyfansoddwr ar ddechrau'r 20 ganrif pan berfformiwyd ei gan i gerddorfa The Raven yn y Crystal Palace ym mis Mawrth 1900 dan arweiniad August Manns.[6]. Ym mis Tachwedd o'r un flwyddyn perfformiwyd ei amrywiadau cerddorfa o Three Blind Mice fel rhan o gyfres y Proms gan Henry Wood. Aeth ymlaen i gyfansoddi

  • Queen Mab can ar gyfer cerddorfa a chorws a berfformiwyd gyntaf yng Ngŵyl Leeds 1904
  • Marino Faliero scena i fariton a cherddorfa a berfformiwyd cyntaf yng Ngŵyl Bryste 1905
  • Bohemian Songs i fariton a cherddorfa a berfformiwyd cyntaf yng Ngŵyl Norwich ym 1905
  • The Bells can ar gyfer cerddorfa a chorws a berfformiwyd gyntaf yng Ngŵyl Birmingham 1906.
  • Les Hommages cyfres gerddorfaol a berfformiwyd mewn cyngerdd Proms ym 1906 o dan arweiniad Henry Wood
  • Homage to E.A. Poe symffoni gorawl a berfformiwyd cyntaf yng Ngŵyl Bryste 1908.

Cysylltiadau Cymreig golygu

Ym 1907 gofynnodd y bardd Herbert Trench i Holbrooke cyfansoddi trefniant cerddorol ar gyfer ei gerdd estynedig Apollo and the Seaman. Derbyniodd y comisiwn a chafwyd perfformiad cyntaf o'r gwaith yn Neuadd y Frenhines ar 20 Ionawr 1908, o dan arweiniad Thomas Beecham. Aeth Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden i wylio ymarferiadau Apollo and the Seaman. Wedi plesio gyda'r gwaith gofynnodd i Holbrooke cyfansoddi trefniant cerddorol ar gyfer ei gerdd Dylan - Son of the Wave.[7] Arweiniodd hyn at gyfansoddi'r Opera Dylan a berfformiwyd gyntaf yn Theatre Royal, Drury Lane, Llundain o dan arweiniad Artur Nikisch, ar 4 Gorffennaf 1914. Arweiniodd hyn at gydweithio ar ddau opera arall, The Children of Don (a berfformiwyd gyntaf yn Nhŷ Opera Llundain, o dan arweiniad Thomas Beecham, ar 12 Mehefin 1912) a Bronwen (a berfformiwyd gyntaf yn Huddersfield gan The Carl Rosa Opera Company ar 1 Chwefror 1929 cyn mynd ar daith).

Wedi clywed pigion o gywaith Scott-Ellis a Holbrooke penderfynodd athro o Abertawe, David John Thomas, enwi ei fab yn Dylan Thomas [7].

Parhaodd y cydweithrediad gyda chwblhau prosiect mwyaf uchelgeisiol Holbrooke, sef trioleg o dan y teitl cyfunol The Cauldron of Annwn [8] sef gosodiad cerddorol o gerddi Scott-Ellis wedi eu selio ar straeon o'r Mabinogi. Un o'i gweithiau mwyaf nodedig ar thema Gymreig oedd y concerto piano Gwyn ap Nudd.

Bu Holbrooke yn treulio cyfnodau estynedig yn Harlech o tua 1915. Roedd Scott-Ellis wedi darparu nifer o breswylfeydd iddo, ac yn y 1920au cynnar symudodd gyda'i deulu i dŷ a enwodd yn Dylan. Yn Harlech ysgrifennodd Holbrooke darnau eraill wedi eu hysbrydoli gan Gymru. Yn eu plith y pedwar Cambrian Ballades ar gyfer y piano; 1) Dolgellau, 2) Penmachno, 3) Tanygrisiau, 4) Maentwrog, a'r gerddoriaeth dawns walts Talsarnau.[7] Yn ystod oriau mân 9 Tachwedd 1928, tra bod gweddill y teulu yn Llundain, torrodd tân allan a difrodwyd y tŷ yn llwyr. Derbyniodd Holbrooke anafiadau difrifol i'w ben a chafodd ei lyfrgell gerdd ei ddinistrio. O herwydd y trychineb dychwelodd i Lundain lle, wedi prynu'n ôl llawer o'r hawlfreintiau ar ei waith cynharach, sefydlodd Holbrooke ei wasg gerddorol ei hun "Modern Music Library", gan sicrhau fod ei gyfansoddiadau ar gael mewn print.

Hyd marwolaeth Scott-Ellis ym 1946, bu Scott-Ellis yn gweithredu fel noddwr i Holbrooke gan roi cymhorthdal at gynnal ei berfformiadau a gan gyhoeddi llawer o'i waith.

Gweithiau eraill golygu

Bu Holbrooke hefyd yn mwynhau gyrfa lwyddiannus fel pianydd cyngerdd nodedig. Heblaw am ei gyfansoddiadau ei hun, roedd ei repertoire yn cynnwys y Toccata gan Robert Schumann, Islamey gan Mily Balakirev, Piano Sonata Rhif 1 Scriabin, Ffantasia Affrica ar gyfer piano a cherddorfa gan Saint-Saëns, Concerto Piano Tchaikovsky rhif 1 a Choncerto Piano Rachmaninoff rhif 2.

Wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ysgrifennodd cyfres o draethodau i gylchgrawn The New Age ym 1914 o dan y teitl British Music Versus German Music yn beirniadu'n hallt diffyg cefnogaeth i gerddoriaeth Brydeinig ac yn condemnio'r hyn a welodd fel ffafriaeth i gerddorion estron ac yn arbennig cerddorion o'r Almaen.

Cafodd balet Holbrooke Aucassin and Nicolette ei berfformio dros 200 gwaith gan gwmni Markova-Dolin ym 1935-36.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn 55 Alexandra Road, St John's Wood, Llundain ar 5 Awst 1958 yn 80 mlwydd oed. Cafodd ei oroesi gan ei wraig Dorothy ('Dot') Elizabeth Hadfield. Priododd y ddau ym 1904 a bu iddynt bump o blant. Newidiodd ei fab ieuengaf ei enw i Gwydion Brooke a daeth yn faswnydd amlwg a bu yn hyrwyddo gwaith ei dad trwy barhau i redeg y "Modern Music Library", o dan yr enw newydd "The Blenheim Press".

Gweler hefyd golygu

Rhestr o gyfansoddiadau gan Josef Holbrooke

Cyfeiriadau golygu

  1. Magnus Magnusson (gol) Chambers Biographical Dictionary, W R Chambers, Caeredin 1992 ISBN 0550160418. Tud 723, Josef (Charles) Holbrooke 1878-1958
  2. Barnett, R. (2006, Mai 25). Holbrooke, Joseph Charles (Josef) (1878–1958), composer and pianist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 5 Ionawr 2019
  3. Forbes, A., & Barnett, R. (2001, January 01). Holbrooke, Joseph. Grove Music Online adalwyd 5 Ionawr 2019
  4. JOE HOLBROOKE - BRITISH COMPOSER Rob Barnett adalwyd 5 Ionawr 2019
  5. Paul Watt, Anne-Marie Forbes Joseph Holbrooke: Composer, Critic, and Musical Patriot Rowman & Littlefield, 2014 ISBN 9780810888920
  6. The Musical Times Vol. 54, No. 842 (Apr. 1, 1913), pp. 225-227 Josef Holbrooke adalwyd trwy docyn darllen LlGC 5 Ionawr 2019
  7. 7.0 7.1 7.2 musicweb JOSEPH HOLBROOKE AND WALES gan MICHAEL FREEMAN adalwyd 5 Ionawr 2019
  8. Encyclopaedia Britannica Josef Holbrooke adalwyd 5 Ionawr 2019