Legio II Traiana Fortis

Lleng Rufeinig oedd Legio II Traiana Fortis ("Lleng gref Trajan"). Fe'i ffurfiwyd gan yr ymerawdwr Trajan yn 105 O.C.. Ei symbol oedd Heracles.

Ffurfiodd Trajan y lleng yma a Legio XXX Ulpia Victrix yn 105 ar gyfer ei ryfeloedd yn erbyn y Daciaid. Wedi concro'r Daciaid, efallai i'r lleng gael ei symud i Arabia. O 115 ymlaen, ymladdodd y lleng yn rhyfel Trajan yn erbyn y Parthiaid, yna yn 117 symudwyd hi i dalaith Judaea. Yn 125, symudodd i dalaith Alexandria et Aegyptus, lle gwersyllai gyda Legio XXII Deiotariana yn Alexandria. Rhwng 132 a 136, ymladdodd yn erbyn gwrthryfel Simon bar Kochba.

Yn ystod rhyfeloedd cartref 193 - 197, cefnogodd y lleng Pescennius Niger ar y cychwyn, ond cyn diwedd y rhyfel, troes i gefnogi Septimius Severus. Ar ddechrau'r 3g, roedd yn ymladd dan Caracalla yn erbyn yr Almaenwyr. Yn y Notitia Dignitatum, o ddechrau'r 5g. dywedir ei bod yn dal yn gwersylla yn yr Aifft.