Term llenyddol sy'n golygu negesydd serch yw llatai (gair Cymraeg Canol). Fel term llenyddol, daw i'r amlwg yng ngwaith y Cywyddwyr, ond dichon fod gwreiddiau'r confensiwn yn hŷn. Mae'r llatai yn aderyn neu anifail fel rheol, sy'n cael ei anfon gan y bardd fel cennad gyda llythyr neu neges serch at ei gariadferch.

Defnyddir confensiwn y llatai yng ngwaith rhai o gywyddwyr mawr y 14g, er enghraifft yng nghywyddau beirdd fel Dafydd ap Gwilym, Llywelyn Goch ap Meurig Hen (at Lleucu Llwyd), Gruffudd Gryg ac eraill. Ceir disgrifiadau hir o'r llatai ei hun, peryglon ar ei daith, disgrifiad manwl o gartref y forwyn a'r forwyn ei hun, ac ati. Ceir amrywiad mawr yn ffurf y llateion hyn: mae Dafydd ap Gwilym yn gyrru'r Gwynt yn llatai drosto mewn un cywydd, er enghraifft, yn ogystal â carw, gwylan, ceiliog bronfraith ac ehedydd.[1]

Er bod y term 'llatai' yn perthyn i gyfnod y cywyddwyr, dichon fod gwreiddiau'r confensiwn i'w darganfod yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion yn y 12g a'r 13g. Mae Cynddelw Brydydd Mawr a Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) yn gyrru meirch yn negesyddion serch.[2] Ceir enghreifftiau o latai-feirch yng ngwaith y cywyddwyr hefyd, er enghraifft mewn awdl gan Hywel ab Einion Lygliw (fl. 1330 - 1370) i Fyfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân, ond does dim enghreifftiau o adar neu anifeiliaid eraill yn negesyddion serch yng ngwaith Beirdd y Tywysogion.

Ceir confensiwn cyffelyb yng ngwaith Trwbadwriaid Profens a Ffrainc hefyd, ond adar - eosiaid fel rheol - a anfonir a does dim o'r manylu hir a gorchestol a geir ym marddoniaeth y Cywyddwyr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Helen Fulton, Dafydd ap Gwilym and the European Context (Caerdydd, 1989), tt. 165-67).
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'llatai'.
  3. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'llatai'.

Gweler hefyd golygu