Llio Plas y Nos

nofel rhamant antur ac arswyd a gyhoeddwyd ym 1945

Nofel gan R Silyn Roberts[1] yw Llio Plas y Nos.[2] Cyhoeddwyd hi'n wreiddiol fel stori gyfresol ym mhapur newydd Y Glorian ym 1906,[3] o dan y ffugenw "Owen Glynn". Cyhoeddwyd hi fel llyfr gan Wasg Gee, Dinbych ym 1945, peth amser ar ôl farwolaeth Silyn, wedi ei olygu gan David Thomas. Bu ail argraffiad ym 1948, a cyhoeddwyd y llyfr o'r newydd mewn orgraff fodern gan Melin Bapur yn 2024 [4]. Yn ei Ragair i'r llyfr dywed yr olygydd:[5]

Llio Plas y Nos
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, nofel Edit this on Wikidata
AwdurR. Silyn Roberts Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Gee Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1945 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiDinbych Edit this on Wikidata

Nid oeddwn yn teimlo bod gennyf i hawl i gymryd yr un rhyddid ar y stori ag a gymerasai'r awdur ei hun. Mi ddiwygiais yr orgraff i ddygymod â safonau Pwyllgor yr Orgraff 1928, a newidiais rai pethau eraill lle y teimlwn yn sicr y buasai Silyn ei hun yn cymeradwyo hynny. Ond dyna'r cwbl.

Mae'r stori yn ymwneud â hanes dau gyfaill yn ymweld â hen blasty ger Beddgelert, Plas y Nos, i geisio canfod y gwir sydd tu ôl i straeon rhyfeddol y maent yn clywed am y lle.

Trosolwg golygu

Mae Gwynn Morgan, mab i Aelod Seneddol cyfoethog, ac arlunydd yn aros mewn gwesty yn Nyffryn Nantlle. Mae o yna er mwyn canfod tirluniau gwerth eu rhoi ar gynfas, er mwyn creu enw iddo'i hun yn y maes. Mae cyfaill iddo, Ivor Bonnard, Ffrancwr o dras Gymreig yn gydymaith ar y daith. Cyfarfu Gwynn ac Ivor ym Mharis pan fu Gwynn yn ceisio dysgu ei grefft yno.

Dros ginio mae'r ddau gyfaill yn clywed am hanes Plas y Nos. Wedi ei adeiladu gan deulu Wyniaid Gwydir,[6] cafodd ei brynu gan aelodau'r Hellfire Club[7] Wedi i sawl un arall byw yno, am gyfnodau byr, aeth Cymro o'r enw Lucias Price a'i wraig Ffrengig, eu mab bach a'u forwyn Ffrengig i fyw yno rhyw chwarter canrif ynghynt. Bu farw Lucias Price. Wedyn daeth gŵr o'r enw Mr Crutch yno. Aeth y forwyn a'r mab yn ôl i Ffrainc, ond doedd dim sôn am be ddigwyddodd i Mrs Price. Roedd si yn y gymdogaeth bod Crutch wedi ei llofruddio, a rhai o'r trigolion lleol yn honni clywed sgrechfeydd ei hysbryd yn dod o'r plas. Mae Gwynn ac Ifor yn penderfynu eu bod am ymweld â Phlas y Nos.

Y bore nesaf mae'r ddau gyfaill yn cerdded i'r plas. Maen nhw'n canfod hen adeilad o oes Elisabeth I sydd bellach wedi mynd yn adfail hyll, gyda gerddi ffurfiol wedi eu gordyfu ac yn llawn chwyn. Dydy Gwynn ddim yn meddwl bod yr adfail yn un addas iddo ei darlunio, ond mae Ivor yn mynnu bod nhw'n mynd i mewn i'r ardd i gael gwell olwg ar y plasty. Wedi cyrraedd yr adeilad mae Ivor yn chwilio am fodd i fynd i mewn i'r adeilad. Does dim modd cael mynediad, ond sylweddolodd Ivor bod olion traed un arall wrth y drws a bod golwg fel bod twll y clo yn dal i gael ei ddefnyddio. Mae Gwynn yn penderfynu mae gorau byddai troi yn ôl am y gwesty. Mae Ivor yn cytuno i wneud fel y mynnai Gwynn ond mae o'n dweud ei fod am ddychwelyd ar ben ei hun a thorri i mewn i'r plasty. Mae Gwynn yn synnu at benderfyniad ei gyfaill. Mae Ivor yn datgelu ei fod yn gwybod am Blas y Nos cyn iddo ddyfod i Gymru a'i fod am weld os allai darganfod atebion yno i ddirgelwch teuluol.

Y noson nesaf mae Ivor yn dychwelyd i Blas y Nos gan fynd a gwn llaw gydag ef. Wedi cyrraedd y plasty mae'n dringo'r eiddew trwchus ar y wal nes cyrraedd ffenestr digon mawr iddo ei dorri a dringo trwyddi. Wrth iddo archwilio un o ystafelloedd y plas daw hogan ifanc, olygus, tua 19 oed i mewn iddi. Mae'r hogan y ddweud wrth Ivor mae Llio yw ei henw a'i bod hi wedi bod yn disgwyl amdano, gan ei bod wedi gweld o mewn breuddwyd yn cyrraedd yno i'w hachub. Mae'n dweud nad yw hi'n byw ar ei phen ei hun. Mae dyn sy'n alw ei hun yn dad iddi hefyd yn byw yn y tŷ, ac mae'r dyn wedi ei gyrru hi'n orffwyll a gwneud iddi golli ei chof. Mae hi'n dweud eto bod hi am i Ivor helpu hi ffoi o Blas y Nos rhywbryd ond nid yn syth gan fod ganddi orchwyl i gyflawni cyn ymadael, er nad yw hi'n cofio beth ydoedd. Mae Ivor yn addo dychwelyd i edrych amdani pob nos hyd iddi gofio a chyflawni ei gorchwyl.

Penderfynodd Ivor i beidio sôn am Llio wrth Gwynn. Wrth iddo ddychwelyd i'r pentref lle'r oedd yn aros sylwodd bod y pentrefwyr yn edrych arno gyda syndod o weld gŵr diarth yn cerdded i'r pentref mor fore. Sylweddolodd pe bai hynny'n digwydd pob bore gallasai peryglu cyfrinach Llio ag ef. Mae o'n perswadio Gwynn i logi bwthyn yn y wlad tipyn yn nes i'r blas na'r pentref dan yr esgus ei fod eisiau lle mwy cyfleus i beintio ei dirluniau.

Yn y cyfamser mae'r dyn sy'n byw ym Mhlas y Nos yn mynd i ystafelloedd Llio i wirio ei bod hi heb gofio pam ei bod yn cael ei chadw yna ac i'w bygwth hi rhag ceisio ffoi.

Wrth ymweld yn rheolaidd a Llio mae Ivor yn ei chynorthwyo hi i gofio pethau. Un o'r pethau mae hi'n ei chofio yw mai Ryder Crutch yw enw ei thad a'i bod o wedi gwneud rhywbeth ofnadwy o ddrwg. Mae Ivor yn gwybod yr enw ac yn gwybod ei fod yn elyn iddo. Mae hyn yn peri cyfyng gyngor i Ivor, gan ei fod wedi dechrau syrthio mewn cariad a Llio. A oes modd iddo ddial ar ei elyn a charu ei merch?

Mae Ivor yn penderfynu rhannu ei gyfrinach a Gwynn. Mae o'n dweud ei fod yn fab i Lucias Prys, cyn preswylydd Plas y Nos. Pan fu farw'r tad rhoddodd ei holl eiddo i'w mab yn ei ewyllys, gyda'r cyfoeth i fynd i'w gyfaill Ryder Crutch pe na fai'r bachgen yn fyw i ddyfod yn ddyn. Roedd ei fam yn ddrwg dybio Crutch, ac yn sicr ei fod am niweidio Ivor er mwyn cael etifeddu ei ffortiwn. Danfonwyd Ifor i ddiogelwch Ffrainc gyda'r forwyn. Ceisiodd Crutch modd arall i gael ei ddwylo ar yr arian trwy orfodi Mrs Prys i'w briodi. Fel llystad i'r bachgen byddai ganddo'r hawl i reoli'r ffortiwn hyd i Ivor troi'n 21. Pan wrthododd Mrs Prys ei briodi, llofruddiodd Crutch hi. Ei reswm dros ymweld â phlas y Nos oedd dial ar Crutch ac i ganfod olion ei fam.

Wedi i Ivor ymweld â Llio yn aml dechreuodd yr hogan cofio mwy am ei hanes. Roedd hithau hefyd yn etifeddes, ei enw iawn oedd Llio Wynn. Cafodd Crutch ei wneud yn warcheidwad iddi ar farwolaeth ei thad. Ond bod Crutch wedi afradu ei hetifeddiaeth. Symudodd y ddau i Blas y Nos rhyw flwyddyn ynghynt. Dilynodd Llio Crutch rhyw noson i ryw stafell lle welodd ef yn siarad ag ysgerbwd dynol yn ymffrostio yn y ffaith mae ef a fu'n gyfrifol am ladd perchennog yr esgyrn.

Penderfynodd Ivor i fynd i'r rhan o'r plas lle'r oedd Crutch yn byw i geisio chwilio am y goriad i'r ystafell lle'r oedd gweddillion ei fam. Daeth Crutch i mewn a gorfododd Ifor iddo fynd a fo at weddillion ei fam. Wedi cyrraedd yr ystafell bu farw Crutch o drawiad ar y galon gan ysbeilio Ivor o'i ddialedd ond hefyd ei ryddhau o ddyfod yn llofrudd ei hun.

Priododd Ivor a Llio ac aethant a gweddillion mam Ivor adref i Ffrainc i'w chladdu. Pan oedd y pâr priod ar eu mis mêl aeth Gwynn a ditectif preifat i Blas y Nos er mwyn i'r ditectif canfod corff Crutch a phrofi ei fod wedi marw o achosion naturiol. Ond wedi cyrraedd maent yn canfod y Plasty wedi ei losgi'n adfeilion moelion.

Penodau golygu

Darllen ar y we golygu

Mae trawsgrifiad o'r llyfr ar gael ar Wicidestun ac mae modd darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Wiki Bookreader.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. ROBERTS, ROBERT (SILYN) ('Rhosyr'; 1871 - 1930), bardd, pregethwr, diwygiwr cymdeithasol, ac athro Adferwyd 18 Maw 2023
  2. Roberts, R Alun (Gwanwyn 1946). "Llio Plas y Nos". Lleufer cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Cyf. 2, rh. 1: 24-27. http://hdl.handle.net/10107/1115121.
  3. Thomas, Ffion Mai (1942). "R Silyn Roberts". Y Traethodydd Cyf. XCVII (XI) (422-425),: 91. http://hdl.handle.net/10107/1148522.
  4. https://melinbapur.cymru/cy/products/llio-plas-y-nos
  5. Roberts, R Silyn (1948). "Rhagair" . Llio Plas y Nos. Dinbych: Gwasg Gee. tt. 3–4.
  6. WYNN (TEULU), Gwydir, Sir Gaernarfon. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 18 Maw 2023
  7. Lord, Evelyn (2008). The hell-fire clubs : sex, Satanism and secret societies. New Haven: Yale University Press. ISBN 978-0-300-17710-7. OCLC 811405711.
  8. "Llio Plas y Nos; Book Reader - Wikimedia". bookreader.toolforge.org. Cyrchwyd 2023-03-18.